Solar/Batri Gwrhyd

Rydym yn gobeithio gosod fferm solar a storfa fatri ar y ddaear wrth ochr y tyrbinau gwynt. Bydd hyn yn gwneud defnydd mwy effeithlon o’n cysylltiad â’r grid – mae’r tyrbinau gwynt yn cynhyrchu llawer o ynni yn y gaeaf ond nid yn yr haf. Felly dydyn ni ddim yn gwneud y defnydd gorau o’n cysylltiad â’r grid. Rydym yn ystyried gosod y solar ar gaeau preifat yn hytrach nag ar y comin.

Rydym hefyd yn meddwl y bydd hyn yn gwneud ein prosiect yn fwy diddorol i ymwelwyr (dros 500 hyd yma yn cynnwys 3 ysgol), gan y byddant yn gallu gweld  gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy a sut maent yn cydweithio.

Ein hymgynghorwyr ar y prosiect hwn yw Dulas sydd â llawer o brofiad ym mhob math o ynni adnewyddadwy. Rydym wedi comisiynu astudiaethau gan ecolegydd, archaeolegydd a phensaer tirwedd i asesu effaith y prosiect yn barod ar gyfer cais cynllunio y gobeithiwn ei gyflwyno ym mis Medi eleni.  Rydym wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus a byddwn yn parhau â hwn yn ystod y broses gynllunio – os hoffech roi eich sylwadau, llenwch y ffurflen ar y wefan hon neu anfonwch e-bost atom yn info@awelamantawe.co.uk.

Rydym yn cydweithio â Western Power Distribution (WPD) gan nad ydym yn cael allforio mwy na 4.7MW o’r gwynt a’r solar. Mae hyn yn golygu bod rhaid sefydlu cysylltiadau cyfathrebu a rheoliadau sy’n dderbyniol i WPD ac i arianwyr y tyrbinau gwynt (Banc Triodos ac aelodau Awel Co-op) i sicrhau bod eu buddsoddiad yn ddiogel. Ar hyn o bryd, rydym yn asesu data o’r tyrbinau bob hanner awr i weld pa mor aml byddai’n rhaid i ni gwtogi’r cynhyrchiad o’r solar er mwyn cadw o fewn ein cyfyngiad allforio o 4.7MW.

Rydym hefyd yn ystyried gosod storfa fatri o hyd at 10MW. Mae’n amlwg bod rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o storio ynni adnewyddadwy a’i allforio yn ystod cyfnodau o alw uchel. Os yw ein solar yn mynd â’n safle uwchlaw 4.7MW ac ni allwn ei roi ar y grid, mae’n gwneud synnwyr i storio’r ynni hwn nes y gallwn ei allforio neu pan nad yw’r solar yn cynhyrchu yn y nos. Efallai byddwn hefyd yn ystyried mewnforio ynni o’r grid a’i storio yn ein batris nes ei bod yn gwneud synnwyr i’w allforio nôl – mae’r grid yn Ne Cymru wedi cyrraedd ei derfyn oherwydd y cynnydd mewn ynni adnewyddadwy felly mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd o gynyddu capasiti’r grid. Mae’r polisi ar storfeydd batris yn datblygu’n gyflym ac rydym eisiau i ynni cymunedol fod yn rhan o’r ddadl honno.

Ariennir y  gwaith hwn gan Raglen Ynni Lleol Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig Castell-nedd Port Talbot, ac Awel Aman Tawe.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i adroddiadau arbenigol gael eu cyflwyno gan ein hymgynghorwyr. Gallwch weld y lleoliad awgrymedig yma.