Archifau Categori: Heb wedi dosbarthu
Rydym ni’n recriwtio Swyddog Datblygu!
Rydym yn chwilio am berson neu ymgeisydd rhannu swydd brwdfrydig, galluog i ymuno â’n tîm bychan a helpu i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle blaenllaw ar gyfer ynni cymunedol.
Mae Awel Aman Tawe yn elusen gofrestredig sy’n datblygu rhaglen o waith i gefnogi adfywio carbon isel. Ariennir y swydd hon trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gellir gweld y disgrifiad swydd llawn yma SwyddogDatblyguAAT
Mae AAT yn gweithio ar nifer o brosiectau yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, adfywio, trafnidiaeth gynaliadwy, celfyddydau cymunedol a rhaglenni addysgol. Mae wedi datblygu dau gwmni cydweithredol ac mae’n darparu rheolaeth/cymorth gweinyddol i’r ddau:
- awel.coop sy’n berchen ar gynllun gwynt dau dyrbin 4.7MW ar y Gwrhyd uwchben Pontardawe
- egni.coop sy’n berchen ar 179kw o ffotofoltäig solar ar 7 adeilad cymunedol yn Ne Cymru
Pwrpas y Swydd
- gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau a grwpiau cymunedol i glustnodi, datblygu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy neu effeithlonrwydd ynni, yn cynnwys cydgysylltu, rheoli prosiectau, a chyflwyno adroddiadau. Bydd hyn yn cynnwys datblygu Cwmnïau Cydweithredol Awel ac Egni ymhellach.
- Bydd y rôl yn cynnwys datblygu a chyflenwi prosiectau adnewyddion o’r pwynt clustnodi, trwy lofnodi gan y tirfeddiannwr a’r broses gynllunio, hyd at y nod terfynol o gyflenwi prosiectau â chaniatâd, sy’n economaidd ymarferol ac yn adeiladwy, a chyrraedd y pwynt ble byddant yn barod i’w hadeiladu.
- Cynnal astudiaethau dichonoldeb cychwynnol a darparu cyngor ar gynigion ynni cynaliadwy, gan roi ystyriaeth i faterion technegol, rheoliadol, ariannol, datblygu grŵp ac ymgysylltu â’r gymuned.
- Ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiectau ynni a rheoli ymgynghorwyr arbenigol a fyddai’n helpu i symud y prosiect at y camau cynllunio a gweithredu.
Gallai cefndir perthnasol gynnwys ymgynghoriaeth ynni, peirianneg, effeithlonrwydd ynni, y diwydiant ynni adnewyddadwy neu gyflenwi ynni, rheoli prosiectau – yn enwedig yn y sector gymunedol, cynllunio, rheoli ynni.
Oriau gweithio: 37.5 awr yr wythnos, oriau swyddfa safonol yn bennaf. Bydd yn ofynnol gweithio gyda’r nos neu ar y penwythnos o bryd i’w gilydd.
Contract: Bydd y person(au) yn cael eu cyflogi ar gontract 2 flynedd gan Awel Aman Tawe, gyda’r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid. Croesewir ymgeiswyr a fyddai’n ystyried gweithio’n rhan amser, a byddem yn barod i greu cyfleoedd rhannu swydd gydag ymgeiswyr eraill ble bo’n briodol.
Gweithle: Lleoliad y swydd hon fydd Swyddfa AAT yng Nghwmllynfell. Mae gan AAT bolisi gweithio gartref sy’n caniatáu gweithio o gartref fel y bo’n briodol.
Cyflog: £27,000 – £34,000 (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)
Dyddiad Cau: 27 Gorffennaf 2018 Cyfweliadau: Dydd Gwener 10 August 2018
Mae wedi bod yn wyntog! Awel Co-op yn talu llog llawn i’w aelodau ar ôl y flwyddyn 1af. Y Cynnig Cyfranddaliadau ar agor o hyd…
Mae Awel Co-op yn falch iawn o adrodd ei fod wedi llwyddo i ad-dalu eu taliadau llog i aelodau’r cwmni cydweithredol o ddyddiad eu buddsoddiad yn y prosiect gwobrwyedig.
Rydym wedi gwneud taliadau o 5% a 7% (yn dibynnu ar pryd wnaethon nhw ymuno) i’n 800 o aelodau fel y rhagwelwyd yn ein Cynnig Cyfranddaliadau Cymunedol. Mae hwn yn llwyddiant anferth yn ein blwyddyn gyntaf o gynhyrchu. Mae wedi ein helpu i ennill Gwobrau Busnes Castell-nedd Port Talbot am Gynaliadwyedd. Mae’n profi bod pobl yn gallu cael gwell enillion na gan y banciau drwy fuddsoddi mewn busnes cymunedol gwyrdd.
Ynghyd â’r llu o unigolion a fuddsoddodd ynom ni, mae aelodau ein cwmni cydweithredol yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau cymunedol yn yr ardal leol fel Meithrinfa Tiddlywinks, 16 o ysgolion, Cyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, ein dau bapur newydd Cymraeg lleol, Llais a Glo Man, a llawer o rai eraill. Mae hyn oll yn helpu i gadw arian yn yr economi leol ac i ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar newid hinsawdd.
Rydym bellach wedi codi bron £2.8m o’n Cynnig Cyfranddaliadau a gobeithiwn gyrraedd ein targed o £3m erbyn 30 Mehefin. Bydd hyn yn ein galluogi i ad-dalu’r benthyciad sy’n weddill oddi wrth Lywodraeth Cymru fel y bydd y prosiect yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan aelodau’r cwmni cydweithredol a Banc Triodos. Y buddsoddiad lleiaf yw £50 a’r gyfradd llog rhagamcanol yw 5%. Ymunwch â ni yma www.awel.coop
Gallwch weld ein Cyfrifon am 2017 yma ar gyfer Awel Co-op ac ar gyfer Awel y Gwrhyd CBC, yr is-gwmni masnachu sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Awel Co-op ac sy’n rhedeg y fferm wynt.
Mae gan ynni cymunedol y potensial unigryw o fedru dod â chymunedau at ei gilydd yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a hefyd i gadw’r cyllid o’u hadnoddau ynni yn y cymunedau hynny.
Rydym ninnau, a grwpiau cymunedol eraill, yn ymgysylltu â phobl mewn ffyrdd creadigol – ar ôl ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos hon, ar ddechrau’r pythefnos Ynni Cymunedol genedlatheol, daeth dros 100 o bobl i weld y cynhyrchiad newydd, ‘Flood’. Cafodd y ddrama hon ei datblygu gan ysgrifenwyr lleol ac roedd yn dangos senario ddychmygol ble roedd Abertawe dan ddŵr oherwydd llifogydd, ac mae’r ffoaduriaid yn dod i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe, a oedd wedi ei throi yn Bwynt Ymgilio am y noswaith. Darparwyd cawl gan gaffi bendigedig Café Make.
‘Flood’
Y gynulleidfa’n mwynhau ‘Flood’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe
Pan fydd y #Bwystfilo’rDwyrain yn cwrdd â Awel Coop. Mae cariad yn yr awyr!
105,065 kwh a gynhyrchwyd ddoe – 44 tunnell o garbon a arbedwyd – £ 8600 ar gyfer ein fferm wynt gymunedol. Gwyliwch yma
Ymweliad â’r safle â fferm wynt Awel Coop a chwrs ysgrifennu newid hinsawdd
Rwy’n anfon y gwahoddiad isod atoch ynglŷn a cyfle i ymweld â prosiect ynni cymunedol ac i ddeall mwy am y sector yma yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad yma yn cael eu trefnu yn benodol go gyfer swyddogion o fewn awdurdodau lleol Cymru (yn enwedig swyddogion â arbenigedd yn datblygu economaidd, cynllunio, datblygu cymunedol a materion yn ymwneud â’r amgylchedd) ac aelodau cymdeithasau sifil a’r trydydd sector, fel modd o ehangu dealltwriaeth o’r sector ynni cymunedol, a sut mae bosib cydweithio er mwyn sicrhau perchnogaeth leol o adnoddau a prosiectau ynni adnewyddadwy y dyfodol.
Mi fydd un o’r digwyddiadau a’u threfnir yn ymweld â phrosiect ynni gwynt cymunedol Awel Aman Tawe, Cwmllynfell, ar y 16fed o Fawrth. Mi fase’n wych cael eich cwmni ac eich mewnbwn ar y diwrnod. Cysylltwch â Sioned Haf (sioned.haf@bangor.ac.uk) am fwy o wybodaeth, a gallwch arbed eich lle drwy dilyn y ddolen hon: http://communityenergywales.org.uk/cy/ehangu-dealltwriaeth-sector-ynni-cymunedol-yng-nghymru/
Hefyd:
“Ysgrifennu am Newid Hinsawdd” – cwrs ysgrifennu preswyl dros benwythnos yn Nhŷ Newydd, Cricieth, Gogledd Cymru.
Y gwanwyn hwn, bydd cydsylfaenydd Awel Aman Tawe, Emily Hinshelwood, yn rhedeg cwrs gyda’r ysgrifennwr, David Thorpe, ar sut i ysgrifennu am y Newid yn yr Hinsawdd.
Gwe 23 Maw – Sul 25 Maw 2018
Ffi’r Cwrs: O £220 i £295 y pen
http://www.tynewydd.wales/course/writing-climate-change/
Ar y cwrs hwn byddwn yn arbrofi gydag amrywiaeth o wahanol ddulliau o ysgrifennu am y newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn ystyried sut i dynnu ar ein hadweithiau emosiynol, defnyddio ymchwil, dychmygu senarios posibl, a chreu storïau ystyrlon. Sut ydyn ni’n dwyn i’r golwg ac yn ysgrifennu am y cyswllt hwnnw, sy’n aml ynghudd, rhwng ein defnydd afradlon o danwydd ffosil a cholli cynefin, bywyd a ffordd o fyw, a brofir gan lawer o bobl yn y byd yn barod? P’un ai rydych yn fardd, yn ysgrifennwr ffuglen, neu mae’n well gennych ysgrifennu ffeithiol, byddwn yn trafod amrywiol agweddau ar newid hinsawdd a sut mae ei effaith yn cael ei deimlo gan gyfranogwyr ar y cwrs hwn a phobl ledled y byd.
Ffawdelw ynni glân i ysgol a grwpiau cymunedol yng Nghwm Aman
Bydd fferm wynt Awel Co-op yng Nghwm Aman yn rhoddi cyfranddaliadau gwerth dros £30,000 i grwpiau cymunedol lleol y Nadolig hwn.
Un o’r buddiolwyr cyntaf yw Ysgol Gynradd Tairgwaith a dderbyniodd gyfranddaliadau gwerth £500 a thystysgrif berchenogaeth yn ystod ymweliad diweddar gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6.
Mae ymweliad yr ysgol yn ymddangos mewn ffilm fer, y gallwch ei gweld yma:
Cafodd y fferm wynt, a leolir tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe, ei chomisiynu ym mis Ionawr ar ôl derbyn benthyciad o £5.25m gan Triodos, y prif fanc cynaliadwy yn Ewrop. Dyma un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yng Nghwm Aman.
Ynghyd â darparu digon o ynni glân i bweru 2,500 o gartrefi bob blwyddyn, mae’r ddau dyrbin gwynt 2.35MWh yn cynhyrchu refeniw sydd wedyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.
Yn ogystal â’r rhodd i Dairgwaith, mae’r cwmni cydweithredol cymunedol sy’n berchen ar y fferm wynt wedi rhoddi cyfranddaliadau gwerth £500 yr un i Feithrinfa Tiddlywinks yn Ystalyfera, Ceiswyr Lloches Bae Abertawe a Chanolfan Maerdy, sy’n elusen adfywio leol. Mae cyfranddaliadau ychwanegol gwerth £30,000 wedi eu clustnodi ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.
Tiddlywinks yn ymweld â’r tyrbinau
Esboniodd Dan McCallum, y cyfarwyddwr sefydlol, a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes gan Adfywio Cymru yn ddiweddar mewn cydnabyddiaeth o’i waith arloesol yn mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Mae fferm wynt Awel Co-op yn brosiect ynni cymunedol ac rydym eisiau i’n tyrbinau fod yn perthyn i gymaint o bobl a grwpiau lleol â phosibl. Roeddem wrth ein bodd o fedru rhoddi cyfranddaliadau i Ysgol Gynradd Tairgwaith a fydd yn elwa ar enillion rhagamcanol o 5% y flwyddyn am 20 mlynedd ar eu buddsoddiad o £500.
“Mae’r fferm wynt yn adnodd addysgol anhygoel yn barod, gan addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd cynaliadwyedd, ond roeddem eisiau mynd cam ymhellach. Nawr bydd disgyblion Tairgwaith yn gallu ymweld â’r safle pa bryd bynnag y mynnont a dweud, ‘rydym ninnau’n berchen ar y tyrbinau gwynt hyn!’.
“Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl o gwbl heb gymorth ariannol Banc Triodos, sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd ac sy’n parhau i’n cefnogi wrth i ni gyrraedd carreg filltir arall, diwedd ein blwyddyn lawn gyntaf o weithredu.
“Mae ein cynnig cyfranddaliadau yn agored i’r cyhoedd o hyd – nes i ni gyrraedd ein targed o £3 miliwn. Hyd yma, rydym wedi codi £2.5 miliwn. Ewch i www.awel.coop os hoffech ymuno â ni!”
Meddai Steve Moore, Rheolwr Perthnasoedd Triodos Bank UK: “Ym Manc Triodos, rydym yn buddsoddi mewn pobl a phrosiectau sy’n sbarduno newid amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol.
“Mae Awel Co-op yn fodel o gynaliadwyedd – yn darparu digon o ynni glân i gyflenwi miloedd o gartrefi ynghyd â chynhyrchu refeniw ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol – ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r stori arbennig hon.”
Mae Banc Triodos wedi lansio cyfrif cyfredol personol newydd eleni, a chawsant eu hysbrydoli gymaint gan waith Awel Co-op, fel iddynt fynd ag un o’u cwsmeriaid, Kathryn Chandler, sy’n byw yn Abertawe, i gwrdd â Dan a disgyblion Tairgwaith ac i weld y tyrbinau dros ei hunan.
Roedd Kathryn yn falch iawn o ddarganfod bod yr arian mae hi’n ei fuddsoddi yn helpu i gynhyrchu ynni glân ar gyfer cartrefi lleol. Esboniodd: “Rwy’n bancio gyda Triodos oherwydd ei fod yn fanc moesegol ac roeddwn eisiau dewis banc rwy’n credu ynddo ac sy’n buddsoddi arian mewn prosiectau rwy’n credu ynddynt.
“Mae Triodos yn agored ynglŷn â ble maent yn gosod eu harian ac i bwy maent yn benthyg ac mae’n bwysig i mi fy mod yn cynilo gyda banc sy’n ystyried y buddiannau i bobl eraill, ynghyd ag i minnau.
Mae’r prosiectau eraill a ariennir gan Fanc Triodos yn cynnwys Eglwys Gymunedol Baglan ym Mhort Talbot, Cartref Nyrsio Glangarnant yn Rhydaman, Cwmni Cydweithredol Tai Rhuddin yng Nghydweli a Fferm Tŷ’r Eithin yn Llanelli.
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Banc Triodos a’r prosiectau maent yn buddsoddi ynddynt, ewch i triodos.co.uk/changemakers. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag Awel Co-op, ewch i www.awel.coop
-DIWEDD-
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Faye Holst – 07521 898 970 – faye.holst@greenhousepr.co.uk
Helen Bell – 07880 560 233 – helen.bell@greenhousepr.co.uk
Ynglŷn â Banc Triodos
Mae Banc Triodos yn arloeswr byd-eang mewn bancio cynaliadwy gan ddefnyddio grym cyllid i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n dda i bobl ac i’r blaned. Mae Triodos yn defnyddio’i €13.5 biliwn (2016) mewn asedau i greu gwerth cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol mewn ffordd dryloyw a chynaliadwy.
Mae gweithrediadau Banc Triodos yn y DU wedi’u lleoli ym Mryste, ac mae ganddo ganghennau yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Almaen ac asiantaeth yn Ffrainc. Yn fyd-eang, mae gan Fanc Triodos brosiectau microgyllid yng Nghanol Asia a Dwyrain Ewrop, ac mae’n aelod sefydlol o’r Global Alliance for Banking on Values (GABV), sef rhwydwaith byd-eang o 43 o fanciau sy’n ceisio trawsnewid cyllid yn gyfrwng dylanwad cadarnhaol.
www.knowwhereyourmoneygoes.co.uk
www.facebook.com/triodosbankuk
Ynglŷn ag Awel Co-op
Mae Awel yn gymdeithas budd cymunedol a sefydlwyd yn Medi 2015 gan Awel Aman Tawe, sef elusen ynni cymunedol.
Mae ein tyrbinau wedi’u lleoli ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Rhagwelir y bydd y tyrbinau’n cynhyrchu’r swm amcangyfrifedig o 12,404 MWh o ynni glân yn flynyddol, digon i gyflewni dros 2,500 o gartrefi bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynhyrchu tua £3m dros 25 mlynedd nesaf y fferm wynt i ariannu prosiectau carbon isel yn y gymuned.
Triodos Bank NV (corfforedig dan ddeddfau’r Iseldiroedd gydag atebolrwydd cyfyngedig, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr BR3012). Awdurdodwyd gan y Dutch Central Bank ac mae’n ddarostyngedig i reoleiddio cyfyngedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential. Mae manylion ynglŷn â maint ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential ar gael gennym ar gais.
Anrhydedd Blwyddyn Newydd i Ynni Cymunedol
Mae Dan McCallum, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd gydag MBE am wasanaethau i ynni cymunedol yng Nghymru.
Mae hyn yn gydnabyddiaeth bwysig o’n fferm wynt gymunedol ac o’r gwaith a wnaed gan ein staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr dros y 18 mlynedd diwethaf. Mae ein prosiect wedi dod yn rhan o fudiad yng Nghymru sy’n ceisio sicrhau mwy o berchenogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy ac sydd bellach yn cynnwys llawer o bobl a sefydliadau. Bu datblygu ein prosiect yn waith anodd, ond mae’n ysbrydoledig i ni weld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn ei sgil gan gymunedau ledled Cymru.
Llun gan Mike Harrison, aelod o Awel Co-op
Mae gan ynni cymunedol y potensial unigryw i fedru dod â chymunedau at ei gilydd yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a hefyd i gadw cyllid o’u hadnoddau ynni o fewn y cymunedau hynny.
Comisiynodd Awel Co-op ei fferm wynt 4.7MW yn Ionawr 2017. Mae’r prosiect wedi cynhyrchu mwy na 10GW o drydan, digon i gyflenwi tua 2500 o gartrefi bob blwyddyn. Mae wedi codi dros £2.5m drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol, y swm uchaf erioed yng Nghymru, ac mae’n ceisio codi £3m fel y bydd y prosiect yn perthyn i gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl yng Nghymru. Gwerth cyfalaf y fferm wynt yw £8.25m ac mae’n cael ei chydariannu gan fenthyciad o £5.25m gan Triodos.
Mae stori ynni cymunedol yng Nghymru yn un barhaus a gall pobl ymuno â hi o hyd. Mae ein cynnig cyfranddaliadau ninnau yn agored o hyd ar www.awel.coop, ac mae’r prosiectau cyffrous eraill sydd â chynigion cyfranddaliadau agored neu sydd ar fin lansio cynigion newydd yn cynnwys www.ynniteg.cymru, Carmarthenshire Energy, www.egni.coop a www.gowerpower.coop. Mae’r gwaith yn cwmpasu’r holl dechnolegau yn cynnwys gwynt, hydro a’r cwmni cyflenwi lleol arloesol cyffrous, Ynni Ogwen. Cafwyd cydweithrediad gwobrwyedig hefyd rhwng awdurdodau lleol fel Cyngor Abertawe ac Ynni Cymunedol Abertawe. Gan symud ymlaen, mae menter ar y cyd newydd gyffrous yng nghoedwig Alwen yng Ngogledd Cymru rhwng Innogy ac Ynni Cymunedol Cymru a fydd yn gweld cyfran gymunedol o 15% yn y fferm wynt arfaethedig newydd yno.
Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth hefyd gan ei bod wedi cefnogi’r holl brosiectau uchod trwy’r rhaglen Ynni Lleol sy’n rhoi cyllid a chyngor. Mae hefyd wedi rhoi cymorth polisi, gyda tharged newydd ar gyfer ynni lleol o 1GW erbyn 2030 a bod yr holl adnewyddion yn cynnwys elfen o berchenogaeth leol erbyn 2020. Mae hyn wedi helpu i ddenu adnoddau ychwanegol i’r sector ynni cymunedol fel Robert Owen Community Banking, Banc Triodos a Banc Datblygu Cymru.
Dros 7 miliwn o kwh … ac enwebiadau am dau wobr
Mae’r Hydref yn amser da o’r flwyddyn ar gyfer ein tyrbinau gwynt, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rownd derfynol mewn dau wobr – y Prosiect Ynni Cynaliadwy gorau yng Ngwobrau Regen SW a’r enw da ‘Er Gwaethaf Popeth – Yr enghraifft orau o fod yn benderfynol o fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol’ gan Adfywio Cymru.
Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau ar agor tan Hydref 31ain felly rydym yn gobeithio eich bod yn ymuno â ni.
Ydyn ni’n atyniad i dwristiaid?
Daeth dros 60 o fuddsoddwyr ac aelodau o’r cyhoedd i’n Diwrnod Agored cyntaf ers i’r tyrbinau ddod yn llawn weithredol. Daeth dros 200 y llynedd yn ystod y gwaith adeiladu. Rydym o’r farn fod hyn yn awgrymu bod llawer o bobl yn hoffi tyrbinau gwynt, yn enwedig rhai y gallwch fod yn berchen arnynt!
Mae rhai o’n hymwelwyr ar y Diwrnod Agored
Roedd ein Diwrnod Agored yn rhan o Bythefnos Ynni Cymunedol. Roedd y golygfeydd yn ysblennydd lawr at Fae Abertawe gydag arfordir Gogledd Dyfnaint yn hollol glir. Gellid hyd yn oed gweld Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.
Rydym bellach wedi cynhyrchu bron 5 miliwn kwh o ynni glân ers i’r tyrbinau gael eu comisiynu ar ddiwedd Ionawr.
Zoe a Millie y ci!Yn ystod Pythefnos Ynni Cymunedol, cyhoeddwyd hefyd yr Adroddiad Cyflwr y Sector ym Manceinion y penwythnos diwethaf, a ddangosodd bod y sector wedi saethu i fyny i £190 miliwn.
- Mae o leiaf 30,000 o bobl wedi buddsoddi mewn grwpiau ynni cymunedol
- Mae’r mudiad wedi adeiladu capasiti o 188 MW o ynni adnewyddadwy
Roedd llai na deg sefydliad ynni cymunedol yn bodoli yn 2010. Nawr mae 222 o grwpiau ynni cymunedol yn bodoli ar draws y wlad
Mae’r rhan fwyaf o’r arian a godwyd wedi bod drwy fentrau cydweithredol (roedd 186 o’r 222 sefydliad a arolygwyd yn Gymdeithasau Budd Cymunedol, sef math ar gwmni cydweithredol fel Awel). Mae hyn yn helpu i ddangos ymrwymiad sylfaenol tymor hir i ynni adnewyddadwy.
Mae Cynnig Cyfranddaliadau Awel ar agor o hyd gydag enillion blynyddol o 5% tan ddiwedd Gorffennaf. Ymunwch â ni!
Awel Co-op ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Ddiwydiant Bwysig
Mae prosiect fferm wynt gymunedol Awel Coop ger Abertawe wedi ei enwebu yn y categori ‘Llunio Lleoedd a Arweinir gan y Gymuned’ yng Ngwobrau Cynllunio 2017.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod gwaith eithriadol mewn meysydd fel cynllunio seilwaith, cyfranogiad rhanddeiliaid a chaniatâd cynllunio, ynghyd â llunio lleoedd, dylunio trefol, datblygu economaidd, tai, adfywio, cyngor cyfreithiol ac ymgynghori amgylcheddol.
Meddai’r Cyfarwyddwr, Dan McCallum “Rydym wrth ein bodd o gael bod ar y rhestr fer. Cymerodd 18 mlynedd i ni lywio’r prosiect hwn o’r cam cynllunio i’r adeiladu. Mae’n bwysig bod y system gynllunio yn rhoi mwy o ystyriaeth i lunio lleoedd cymunedol gan mai dyma oedd ein gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf. Roeddem eisiau harneisio ased lleol, sef y gwynt, i alluogi adfywio lleol. Mae’n fendigedig gweld ein tyrbinau yn eu lle bellach yn cynhyrchu ynni glân, ac rydym eisiau annog mwy o bobl i ymweld â’n safle. Rydym yn cynnal Diwrnod Agored ar 4 Gorffennaf rhwng 4 – 8pm. Mae croeso i bawb – anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk neu ffoniwch 01639 830870 i fwcio lle. Byddwn yn darapru te, coffi a phice ar y maen wedi’u pweru gan y gwynt!”
Mae’r prosiect yn perthyn i’r cwmni cydweithredol lleol, Awel Coop, ac mae’n cynnwys dau dyrbin gwynt Enercon 2.35MWh a ddechreuodd gynhyrchu ym mis Ionawr. Rydym yn disgwyl cynhyrchu tua 12,558 MWh o ynni carbon isel glân bob blwyddyn, sy’n ddigon i gyflenwi dros 2000 o gartrefi.
Lleolir y fferm wynt ar Fynydd y Gwrhyd, yn agos i dref Pontardawe a thua 20 milltir o ogledd Abertawe, ac yn ddiweddar sicrhaodd un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yn Nyffryn Aman: buddsoddiad 15 mlynedd, gwerth £5.25m, gan Triodos, prif fanc cynaliadwy Ewrop.
Ychwanegodd Dan “Yn ogystal â Triodos, rydym eisiau diolch i’n cynghorwyr sydd wedi gweithio’n galed gyda ni dros lawer o flynyddoedd i sicrhau caniatâd cynllunio – Dulas, ADAS a’n tîm cyfreithiol yn Burges Salmon.”
Mae’r cwmni cydweithredol hefyd wedi codi £2.3m yn ychwanegol drwy’r cynnig cyfranddaliadau mwyaf erioed yng Nghymru. Nod y cynnig cyfranddaliadau yw codi cyfanswm o £3m cyn diwedd Gorffennaf a fydd yn ei alluogi i ailariannu benthyciad gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y prosiect ei gefnogi gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot; y chwedl rygbi Cymreig, Paul Thorburn; Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke; a Paul Allen o’r Canolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, Powys.
Cyhoeddir yr enillwyr yn Savoy Place yn Llundain heno.