Pob cofnod gan Dan McCallum

Awel Co-op yn cael benthyciad o £5.25m ar gyfer fferm wynt gymunedol

Mae’r fferm wynt gymunedol wobrwyedig, Awel Co-op, yn dathlu buddsoddiad o £5.25m gan Fanc Triodos. Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr y cwmni cydweithredol.

Victoria Allsopp a Elin Blundell, Burges Salmon; Ben Kumordzie, TLT, Triodos’ solicitor. Mary Ann Brocklesby and Dan McCallum, Awel Co-op

“Rydym wrth ein bodd fod Triodos, y prif fanc moesegol yn y DU, wedi penderfynu rhoi benthyciad 15 mlynedd i ni. Rhoesant y benthyciad ar ôl proses ddiwydrwydd dyladwy drylwyr ar y fferm wynt. Dyma un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yn hen gymuned lofaol Cwm Aman. Mae Triodos wedi bod yn gefnogwyr allweddol i’r sector ynni cymunedol tra chyffrous ers blynyddoedd yn y DU, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw allu buddsoddi mewn cwmni cydweithredol ynni yng Nghymru.”

Nawr mae’r cwmni cydweithredol wedi penderfynu estyn ei Gynnig Cyfranddaliadau tan ddiwedd Gorffennaf neu nes iddo gyrraedd ei darged o £3m. Bydd hyn yn galluogi Awel i ad-dalu benthyciad o £1.2m gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gyfradd llog ar gyfer cyfranddaliadau yn aros ar 5% y flwyddyn er mwyn cyrraedd y targed o £3m cyn gynted â phosibl. Cafodd y prosiect ei gefnogi gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot;  Paul Thorburn, y chwaraewr rygbi Cymreig chwedlonol; Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru; a Paul Allen o’r Canolfan Technoleg Amgen.

Meddai Steve Moore o Triodos “Gan fy mod yn gyfarwydd â’r prosiect hwn ers tro, mae’n wych gweld ei fod wedi dwyn ffrwyth.  Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan hanfodol o’r prosiect hwn ac mae llwyddiant y sylfaen eang o gyfranddalwyr yn y gymuned yn dystiolaeth o hynny.  Mae pob prosiect cymunedol yn ymwneud â phobl ac nid yw hwn yn eithriad – mae Awel wedi dangos lefelau anarferol o daerni ac ymroddiad i oresgyn llawer o heriau er mwyn gwneud i’r prosiect hwn ddigwydd, a gallant fod yn haeddiannol falch o’u cyflawniad rhagorol.  Nid yw prosiectau fel hwn yn hawdd eu cyflawni ac rydym wedi medru defnyddio’r profiad sydd gennym wrth dreulio dros ddegawd yn cefnogi prosiectau cymunedol tebyg.”

Ychwanegodd Dan “Rydym eisiau cydnabod y rhan hanfodol mae Llywodraeth Cymru wedi ei chwarae wrth ddarparu’r cyllid pontio o £3.55m i ni er mwyn adeiladu ein prosiect. Mae hyn wedi ein galluogi i gynnal ein cynnig cyfranddaliadau sydd hyd yma wedi codi £2.26m, ac i sicrhau cyllid gan Triodos.  Dylai hon fod yn astudiaeth achos ar sut gall cymorth gan lywodraeth hyrwyddo ymgysylltu â’r gymuned a helpu i ysgogi cyllid i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU.

Rydym hefyd eisiau rhoi diolch i Ynni Lleol, Big Society Capital, Esmee Fairbairn Charitable Trust, Robert Owen Community Banking a Rhaglenni Rhanbarthol yr UE am ddarparu arian datblygu hanfodol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan ein cynghorwyr cyfreithiol, Burges Salmon, sydd wedi bod gyda ni ar y daith hon o’r cychwyn cyntaf. Heb ymrwymiad staff Burges Salmon, ni fyddai ein prosiect wedi cael ei adeiladu.

Bydd ein holl elw, a amcangyfrifir yn £3m dros 20 mlynedd, yn cael ei ail-fuddsoddi mewn mwy o brosiectau carbon isel yn ein cymuned. Rydym eisiau i gymaint o bobl, elusennau a grwpiau cymunedol â phosibl fod yn berchen ar ein fferm wynt – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn gyd-berchennog ar fferm wynt am £50. Fel cwmni cydweithredol, mae’n un aelod, un bleidlais ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. A byddwch yn gallu gweld i ble mae eich arian yn mynd! Ewch i http://awel.coop/?lang=cy i gael mwy o wybodaeth”

Nodiadau i’r Golygydd

Mae Awel Co-op wedi ceisio dathlu creadigrwydd a hwyl i ennyn diddordeb pobl yn y broses o adeiladu’r fferm wynt, ac yn ei rheolaeth yn y dyfodol. Gellir gweld ein cyfres o luniau treigl o adeiladu’r sylfeini, a elwir y Bake Off, ac sydd wedi eu gosod ar gân, yma. Gwnaeth Mike Harrison, sy’n enillydd dau BAFTA Cymru, ffilm ysbrydoledig o’r broses o godi’r tyrbin, gan gipio codiad haul godidog Cymreig.

Mae’r prosiect yn cynnwys dau dyrbin gwynt Enercon, gyda chapasiti o 2.35MW bob un. Mae gan y fferm wynt gapasiti o 4.7MW a bydd yn cynhyrchu digon i ddiwallu anghenion trydan blynyddol cyfatebol dros 2000 o gartrefi. Hyd yma mae’r lefelau cynhyrchu yn uwch na’r disgwyl. Lleolir y fferm wynt ar Fynydd y Gwrhyd yn agos at dref Pontardawe. Mae tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe ar ymyl gorllewinol y Cymoedd.

Cynnig Cyfranddaliadau yn croesi’r trothwy o £2 filiwn

Rydym yn falch iawn bod ein Cynnig Cyfranddaliadau wedi mynd heibio i £2 filiwn, sef yr uchaf erioed yng Nghymru hyd y gwyddwn. Mae dros 800 o unigolion wedi buddsoddi, ond rhoddwyd hwb arbennig i ni drwy gymorth Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus a fuddsoddodd £100,000. Dyma’r buddsoddiad sengl mwyaf a ganiateir dan Gynnig Cyfranddaliadau cwmni cydweithredol ac mae’n gymeradwyaeth gref o’n gwaith.

Meddai Colin Baines, Rheolwr Ymgysylltu Buddsoddiad Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus, “Mae’n dda gennym wneud ein buddsoddiad uniongyrchol cyntaf mewn ynni cymunedol drwy ymuno â chwmni cydweithredol gwynt Awel. Ystyriwn fod y potensial gweddnewidiol mewn ynni cymunedol yn aruthrol, nid yn unig o ran newid carbon isel ond hefyd o ran cadernid economaidd a chymunedol lleol. Mae’r ffordd y mae’r gymuned wedi ymgymryd â’r prosiect hwn ei hunan, o’r cychwyn i’r cam cynllunio i’r broses gynhyrchu, wedi creu argraff dda iawn arnom: tipyn o gamp a ddylai fwyhau gwerth cymunedol y prosiect. Mae gan Awel hefyd y lleoliad, y dechnoleg a’r arbenigedd iawn, ynghyd ag adenillion da ar fuddsoddiad. Ar y cyd â’i fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol, mae hyn yn golygu ei fod yn fuddsoddiad perffaith i sefydliad fel ein un ninnau sy’n ceisio defnyddio’i asedau i hybu ei amcanion elusennol.”

Meddai Dan McCallum o Awel Co-op, “Rydym wrth ein bodd o groesawu Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus yn aelod o’n cwmni cydweithredol.” Mae’r Gymdeithas Ddarbodus yn ariannu amrywiaeth o brosiectau mawr ar draws y DU ac mae iddi Weledigaeth gref: “Rydym eisiau helpu i adeiladu byd teg a chynaliadwy ble gall pawb fyw bywydau ystyrlon, gyda pharch a gofal iddyn nhw eu hunain, i’w gilydd ac i’r blaned. Credwn mai pwrpas arian a’r economi yw galluogi a gwasanaethu ffyniant dynol ac amgylchedd iach, ac nad dyma yw ei bwrpas ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio drwy grantiau, buddsoddiadau a’n gweithgareddau personol, gan geisio creu economi decach sy’n gwasanaethu pawb.”

Marchnerth! (llun gan aeolod Awel, Mike Harrison)

Ychwanegodd Dan, “Mae chwe elusen arall wedi dewis buddsoddi yn ein fferm wynt gymunedol hefyd, gan gynnwys Environmental Justice Foundation and Vision 21  – credwn ei bod yn bwysig iawn bod elusennau’n dilyn canllawiau moesegol cryf a buddsoddi mewn ynni cymunedol. Byddem yn annog elusennau eraill i wneud yr un peth – bydd hyn hefyd yn helpu i’w cynnwys yn uniongyrchol mewn ynni gwynt ar y tir fel un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ac i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rhagwelir mai hon fydd y ffordd rataf erbyn 2025. Mae hyn yn ôl Llywodraeth y DU – rhaid i ni ofyn felly, pam maen nhw’n cefnogi ffracio a niwclear sydd llawer yn ddrutach i’r defnyddiwr?”

Mae Cyfarwyddwyr Awel bellach wedi penderfynu estyn y Cynnig Cyfranddaliadau er mwyn ailariannu benthyciad gan Lywodraeth Cymru am £1.2 miliwn. Mae hwn yn fenthyciad 15 mlynedd @7.5% mewn llog felly bydd yn well bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn ailariannu hyn drwy Gyfranddaliadau. Byddwn yn cadw’r gyfradd llog ar gyfer Cyfranddaliadau @5% fel yn y cynnig presennol.

Gobeithio y bydd elusennau eraill yn ymuno â ni.

Ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr yng Ngwobrau Trydydd Sector Cymru 2016

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr am y Mudiad a Edmygir Fwyaf yng Ngwobrau Trydydd Sector Cymru 2016.

Mae Gwobrau Trydydd Sector Cymru yn anrhydeddu gwaith caled a llwyddiannau ysbrydoledig y trydydd sector yng Nghymru ac mae’r Wobr am y Mudiad a Edmygir Fwyaf yn cael ei roi i fudiadau a berchir fwyaf am eu gwaith a’r achosion y maent yn eu cynrychioli.

bladelift

Bydd enillydd y categori yn cael ei benderfynu drwy bleidlais gyhoeddus eleni felly cefnogwch ni os gwelwch yn dda drwy bleidleisio arlein nawr!

Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Awel Co-op, “Rydym wrth ein bodd gyda’r gydnabyddiaeth hon. Bydd ein tyrbinau yn cael eu comisiynu a chynhyrchu trydan ar Ddydd Gwener 16 Rhagfyr – mae wedi mynd â ni 18 mlynedd i gyrraedd y pwynt hwn felly rydym yn dros y lleuad! Ein Cynnig Cyfranddaliadau yn dal ar agor, felly beth am brynu cyfranddaliadau fel anrheg Nadolig i rywun? – Gallwch fuddsoddi rhwng £ 50 ac rydym yn disgwyl i chi dalu elw flynyddol o 5%. Mae ein Cynnig eisoes wedi codi bron i £1.6m, y mwyaf erioed yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.awel.coop.

Gallwch ddysgu mwy am y gwobrau a sut i bleidleisio yma http://www.wcva.org.uk/what-we-do/celebrating-the-sector/third-sector-awards-cymru. Rhannwch y ddolen hon ac, os ydych yn trydar, defnyddiwch yr hashnod #TSACymru i’n helpu i gael mwy o bleidleisiau!

Mae’r pleidleisio yn cau ar 13 Ionawr 2017 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn seremoni Gwobrau Trydydd Sector Cymru ym mis Chwefror.

Diolch am eich cefnogaeth.

Artist ifanc yn cael ei ysbrydoli gan dyrbinau gwynt

Mae’r artist lleol, Jozef Swoboda, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, wedi cael ei ysbrydoli gan dyrbinau gwynt. Mae ei luniau yn rhoi lle canolog i’r tyrbinau yn y dirwedd. Mae’n cipio egni’r tyrbinau a’r dirwedd naturiol sy’n eu hamgylchynu.

dsc00505

Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Awel, “Gallwch deimlo’r cynnwrf a’r pŵer yng nghelfwaith Josef. Mae’n cynrychioli’r ffordd y mae pobl ifanc yn gweld ein tirwedd. Erbyn heddiw, mae tyrbinau yn rhan ohoni ac yn ychwanegu dimensiwn arall. Yn y gorffennol, roedd artistiaid fel Joseph Herman, a oedd yn byw yn Ystradgynlais ger Ystalyfera, yn cipio bywyd y glowyr a weithiai dan ddaear. Tra bod Herman yn dathlu dewrder a phenderfyniad ein cymunedau glofaol, mae gwaith Josef Swoboda yn amlygu’r trawsnewid cadarnhaol ym myd ynni. Ac mae yntau’n cael aros uwch ben y ddaear i beintio – mae’n rhaid bod hwn yn beth da!”

Rydym eisiau i’n fferm wynt gymunedol fod yn rhan o ymateb artistig i’r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi cydweithio’n barod gyda Carol Ann Duffy a Gillian Clarke i weithio gyda beirdd lleol, gan gynhyrchu dau lyfr ar y thema newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi cydweithio gyda Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe i gynhyrchu theatr gymunedol ar faterion cynhesu byd-eang.

Rydym eisiau i artistiaid, ysgrifenwyr a cherddorion eraill fod yn rhan o’r mudiad, sef mudiad pwysicaf ein cenhedlaeth – yn llythrennol, oherwydd mae p’un ai fydd gennym genedlaethau yn y dyfodol yn dibynnu ar ein gweithredoedd ar hyn o bryd.  Mae Cymru ar flaen y gad o ran y polisi hwn ac rydym eisiau helpu i’w drosi yn weithredu ymarferol. I gael mwy o wybodaeth ac i gysylltu â ni, ewch i www.awel.coop.

dsc00506

Ffilm Syfrdanol i lansio Cynnig Cyfranddaliadau Nadolig Cwmni Cydweithredol Awel

Mae Mike Harrison, sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru, wedi gwneud ffilm fer syfrdanol yn cipio’r munudau pan gafodd y llafnau eu codi a’u gosod ar un o dyrbinauCwmni Cydweithredol Awel gyda’r wawrturbines-dawn

Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Cwmni Cydweithredol Awel, “Roedd yn rhaid i Mike fod ar y safle am 5am a gweithio yn yr oerfel (ar y cyd â thîm gosod Enercon) ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mike am aberthu ei hoe fore Sadwrn i gynhyrchu’r ffilm hardd, atgofus hon. Mae Mike yn aelod o’r cwmni cydweithredol ac mae’n byw yn lleol yng Ngwaun Cae Gurwen.

“Does dim gwell anrheg Nadolig na bod yn gydberchennog ar fferm wynt! Mae’n lân, yn gynaliadwy a bydd yn helpu i sicrhau y gall bob un ohonom ddathlu’r Nadolig yn y dyfodol. Mae dros saith cant o bobl wedi ymuno yn barod â Chwmni Cydweithredol Awel, ac mae’r cynnig cyfranddaliadau wedi cael ei estyn tan Ddydd Nadolig.

Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau wedi codi £1.53m yn barod, dyma’r swm mwyaf erioed yng Nghymru ac rydym wedi sicrhau benthyciad o £4.7m gan Lywodraeth Cymru. Fel cwmni cydweithredol, mae’n un aelod, un bleidlais, ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. Rydym yn cynnig enillion o 5% i aelodau, sydd llawer yn well na’r cyfraddau banc presennol. A byddwch yn gallu gweld i ble mae eich arian yn mynd!”

Cyfnod Prawf a Throsgludo Tyrbinau

Byddwn yn cynnal trosgludiad prawf ar ddydd Llun 3 Hydref. Bydd hwn yn dechrau am 1200 hanner dydd ger Tesco a bydd yn mynd drwy Bontardawe. Bydd y lori hon yn dynwared maint go iawn y tyrbinau ar y lori fel y gallwn fod yn siŵr o’r llwybr trosgludo i’r safle. Bydd yn cael ei hebrwng gan yr heddlu gan ei fod yn llwyth anghyffredin. Ymddiheurwn am unrhyw oedi.

Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl y bydd ein tyrbinau’n cael eu trosgludo o Borthladd Abertawe yn ystod yr wythnos ddilynol, ar y diwrnodau canlynol. Dewch i wylio ym Mhontardawe! Rydym yn aros am gadarnhad gan yr heddlu o ran yr union amserau – mae’n rhaid iddynt gyd-drefnu gyda nifer o gyrff eraill. Efallai y bydd dau drosgludiad y dydd, yn y bore ac yn y prynhawn. Bydd yr holl drosgludiadau’n digwydd rhwng 9.30am a 3pm. Byddwn yn postio gwybodaeth ychwanegol ar y wefan, trydar a gweplyfr cyn gynted ag y bydd ar gael.

Dyddiad Diwrnod Amser
10.10.2016 Dydd Llun 0930 – 1500
11.10.2016 Dydd Mawrth 0930 – 1500
12.10.2016 Dydd Mercher 0930 – 1500
13.10.2016 Dydd Iau 0930 – 1500
14.10.2016 Dydd Gwener 0930 – 1500
15.10.2016 Dydd Sadwrn 0930 – 1500
17.10.2016 Dydd Llun 0930 – 1500
18.10.2016 Dydd Mawrth 0930 – 1500
19.10.2016 Dydd Mercher 0930 – 1500

 

Awel yn ennill Gwobr Ynni Cymunedol

Mae Awel Co-op wedi ennill gwobr fel y Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol gorau yn 2016. Mae’r Wobr yn agored i bob prosiect yng Nghymru a Lloegr.

Meddai Mary Ann Brocklesby, un o Gyfarwyddwyr Awel, “Rydym yn falch dros ben. Erbyn hyn mae cannoedd o brosiectau rhagorol yn cael eu datblygu ar draws y DU felly mae’n anrhydedd aruthrol i ni ennill y gydnabyddiaeth hon. Rydym wedi bod yn gweithio ar y fferm wynt gymunedol hon ers 18 mlynedd ac roedden ni yno ar ddechrau’r mudiad ynni cymunedol yn y DU. Mae wedi cymryd llawer o amser, a bu’n rhaid i ni oresgyn nifer o anawsterau, ond mae’n bleser gweld y tyrbinau gwynt yn cael eu hadeiladu nawr a’r gefnogaeth a gawn trwy ein Cynnig Cyfranddaliadau. Bellach mae dros 150MW o ynni cymunedol a £95m o fuddsoddiad cymunedol yn y DU – rydym yn falch o fod yn rhan o’r mudiad hwn.

Rydym hefyd yn derfynwyr yng Ngwobrau Ynni Adnewyddadwy’r DU Cymru yn y categori Mudiad Rhagorol a gaiff ei gyhoeddi ar 4 Tachwedd yng Nghaerdydd, ac yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru a gyhoeddir mewn seremoni yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar 28 Medi.

Meddai Dan McCallum, rheolwr prosiect Awel, “Mae ynni cymunedol yn un o’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd gan ei fod yn ennyn diddordeb pobl yn ein system ynni. Roedd yn gyfareddol clywed yn y Gwobrau Ynni Cymunedol am y twf mewn ynni cymunedol yn yr Almaen – 1,000MW o brosiectau wedi eu gosod ac £1.53 biliwn wedi ei fuddsoddi. Erbyn heddiw mae dros 800 o gwmnïau cydweithredol ynni yn yr Almaen – gweler y graff isod.

Roedd presenoldeb cryf gan Gymru ar draws y Gwobrau gydag Anafon Hydro, Swansea Energy Coop, Cydynni a Chilgwyn yn cael eu cydnabod @Anafon_Hydro @SCEES_Swansea #cilgwyn #cydynni.

“Rydym eisiau i’n fferm wynt fod yn perthyn i gymaint o bobl â phosibl – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn gydberchennog ar fferm wynt am £50. Fel cwmni cydweithredol, mae’n drefn un aelod, un bleidlais ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. Rydym yn cynnig enillion o 5% i aelodau ac mae’r holl elw yn mynd i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol newydd.

Rydym wedi codi bron £1.3m yn barod a’r nod yw codi £2 filiwn o’n cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Ymunwch â ni drwy fuddsoddi yn www.awel.coop.

Awel Co-op ar BBC heddiw

Gohebydd economeg BBC Cymru, Sarah Dickens, cyfarfod â rhai o’n haelodau ar y safle. Roedd Sarah yn edrych ar fuddsoddiadau eraill yn awr bod Banc Lloegr wedi torri cyfraddau llog. Ceir adran ar Radio Cymru Post Cyntaf am gydweithfeydd ynni cymunedol ymagyda cyfweliad gyda Neil Lewis o Ynni Sir Gar. Mae Neil wedi rhoi llawer o help i ni dros y blynyddoedd – mae’n ar 22.55. Adrodd ar wefan y BBC yma a chyfweliadau gydag aelodau ein yma – gwibio ymlaen at yr adran gyda ni sy’n dechrau am 22.11 munud i mewn i’r rhaglen. Mae dal cyfle i chi  ac ymuno â ni.

DSC00980

Rydym ni’n cynnal ymweliadau â’r safle dydd Iau 8 Medi am 2pm a dydd Mawrth 20 Medi am 2pm. Mae lle i 10 o bobl ar bob ymweliad felly anfonwch e-bost iinfo@awelamantawe.co.uk i gadw lle. Byddwn ni’n cyfarfod yn y swyddfeydd ar y safle, oddi ar yr A474, 3 milltir i’r gogledd o Bontardawe.

Byddwn ni’n gyrru 4 cilometr i fyny’r trac i weld sylfeini’r tyrbin a’r isbwerdy. Bydd ein peirianwyr o gwmni adeiladu Raymond Brown ar y safle a bydd digon o amser i ofyn cwestiynau. Bydd paned o de a phice ar y maen hefyd.

Gwyliwch ein fideo newydd Gêm codi ffyn – egni wynt – 4 diwrnod o waith mewn 3 munud! Gallwch ddarllen am hynt y gwaith adeiladu a gweld lluniau yn Awelog

Gobeithio eich gweld chi cyn bo hir