Wythnosau Deg i Ugain: Dur a Choncrit.
Sylfeini dur y tyrbinau
Mae’r basgedi sylfaen dur wedi cael eu hadeiladu. Cymerodd bedwar diwrnod i adeiladu pob sylfaen, gyda thîm o arbenigwyr sydd â phrofiad o weithio ar dyrbinau Enercon. Dyma luniau i ddangos yr amrywiol gamau i chi:
Ac o’r awyr:
Ac os hoffech wylio’u gwaith rhyfeddol o gyflym, dyma chi – mae’r cymylau’n eitha’ cŵl hefyd:
Arllwys y concrit
Mae’r concrit wedi cael ei arllwys ar gyfer Tyrbin 1. Roedd yn ddiwrnod llawn o waith, o 5am i 7pm (ar noson gêm Cymru yn erbyn Portiwgal yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd) – felly gwnaeth y tîm yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o amser i gyrraedd tafarn! Chwistrellwyd tua 1,200 tunnell o goncrit drwy’r hyn oedd yn edrych yn debyg i diwb peipio eisin ar deisen enfawr:
Cymeradwyodd Enercon y sylfeini, a gosodwyd cylchoedd daearu gan PowerSystems. Mae’r ardal wedi cael ei hôl-lenwi bellach, felly’r cyfan a welwch yw’r cylch canolog o folltau ble bydd darnau’r tŵr tyrbin yn cael eu gosod yn sownd:
Isbwerdy
Mae adeilad yr isbwerdy bron yn barod. Bydd y gwaith mewnol gan WPD a PowerSystems yn dechrau yng nghanol mis Awst.
Mae Western Power Distribution wedi gosod y pwyntiau cysylltu ar y llinellau pŵer presennol yn barod. Dyma ble fydd ein trydan yn mynd i mewn i’r grid.
Taith Brawf
Cawsom daith brawf gyda halwyr Plantspeed i wirio’r llwybr o ddoc Abertawe. Dyma luniau o’r daith gyffrous gyda lori estynadwy dan hebryngiad yr heddlu!
Pedwar Diwrnod Agored i Aelodau
Ar ôl llwyddiant ein noson agored gyntaf, penderfynom drefnu nifer o ddigwyddiadau ychwanegol i aelodau er mwyn medru gwahodd aelodau Awel a phobl nad ydynt yn aelodau i’r safle. Rydym wedi cael ymateb gwych ac wedi medru dangos yr amrywiol gamau adeiladu i bobl. Cynhelir yr un nesaf am 2pm, ddydd Iau 11 Awst – bwciwch cyn gynted â phosibl.
Ymunodd Paul Thorburn – cyn-gapten Cymru – â ni yn un o’r nosweithiau agored a gofynnom iddo gicio pêl rygbi dros y sylfeini i goffáu ei drosiad 62m enwog yn erbyn yr Alban.
Mwy o ymwelwyr i’r safle:
Daeth dau o Aelodau’r Cynulliad, Jenny Rathbone a Jeremy Miles, i ymweld â’r safle. Roeddent yn falch o weld ymrwymiad Awel i gontractio cwmnïau lleol wrth adeiladu’r safle. Dyma nhw gyda Dan (Awel) a Joe (Raymond Brown):
Kani Hinshelwood, un o’n gwirfoddolwyr hirdymor, yn dod nôl i weld y gwaith adeiladu.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gytuno i roi benthyciad gwerth £3.55 miliwn i Awel, daeth Lesley Griffiths (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig) i ymweld â’r safle yr wythnos ddiwethaf:
Aelodau Awel yn ymweld â’r safle
A diolch arbennig i Tanya, Bethan a Jenny am eu holl waith yn dosbarthu posteri a thaflenni ynglŷn â’r Cynnig Cyfranddaliadau. Erbyn hyn rydym wedi codi’r swm anhygoel o £1.213 miliwn trwy gyfranddaliadau cydweithredol. Mae’r ddogfen cynnig cyfranddaliadau ar y wefan yma os hoffech fuddsoddi.
Pedwerydd Cyfarfod Cynnydd:
Cafwyd cyfarfod cadarnhaol iawn – yn wir mae’r gwaith adeiladu ar y blaen. O’r chwith i’r dde: Chris Usher (QuadConsult), Tom (Wind Prospect), Rory ac Andreas (Enercon), Eirwyn (Power Systems), Jamie, Owen a Steve (Raymond Brown), Jamie (Wind Prospect), Charlotte (EST).