Wythnosau 11 i 14: Sylfeini!
Gosod y Sylfeini
Is-orsaf: Mae dyluniad ar gyfer yr is-orsaf wedi’i chymeradwyo gan Western Power Distribution (WPD). Mae’r sylfeini wedi’u cwblhau a mae’r waliau’n cynyddu. Mae sylfaen goncrid ystafell switshys y fferm wynt wedi’i harllwys. Bydd yr is-orsaf â dwy set o offer switshio (rhai ni a rhai WPD) lle mae’r trydan o’r tyrbinau wedi’i gysylltu â’r grid. Mae’r peirianwaith wedi’i archebu. Bydd yn cyrraedd ac yn cael ei osod fis Medi.
Sylfeini tyrbinau
Mae’r tyllau wedi’u tyllu ar gyfer tyrbinau gyda ffosydd draenio i fynd ag unrhyw ddŵr i ffwrdd. Mae’n anodd dirnad maint y tyllau hyn, felly rydym wedi tynnu ychydig o luniau gyda ni ynddynt i ddangos y raddfa i chi.
Mae Tyrbin 1 wedi cael ei haen sylfaenol o goncrid wedi’i arllwys. Dyma’r twll gyda Dan yn esgus bod yn dyrbin:
Cyflymodd y diwrnod cyfan o goncridio yn y glaw i 2.5 munud. Bobol bach maent yn gweithio’n gyflym!
Uwchben y concrid, gosodwyd mat o fariau dur, a’r cylch bollt a osodir yn y canol. Mae’r llun hwn o’r cylch bollt cyn iddo fynd i’r twll:
Noson Agored Aelodau Awel
Cawsom noson wych ar y safle ychydig wythnosau yn ôl. Roeddem mor falch o groesawu deg aelod ar hugain i weld y gwaith adeiladu a theithio pellteroedd mawr. Roedd Owen, Jamie, Bethan a Steve i gyd ar y safle i ateb cwestiynau a hebrwng aelodau o amgylch y safle. Aethom fel confoi ar hyd y trac i’r is-orsaf, a cherdded i leoliadau y ddau dyrbin. Yna aethom yn ôl am de a choffi yn swyddfa’r safle. Byddwn yn cynnal noson agored arall ar Fehefin 29ain. Os oes gennych ddiddordeb mynychu, rhowch wybod i ni.
Cynnig Cyfran:
Rydym yn awr wedi codi swm anhygoel sef £1.186 miliwn drwy gyfrannau cydweithredol. Mae dogfen y gyfran newydd ar y wefan yma.
Trydydd cyfarfod Cynnydd:
Cyfarfod da, mae popeth yn digwydd yn ôl yr amserlen. Ymysg pethau eraill a drafodwyd oedd taith brawf sydd i’w chynnal ar y 27ain o Fehefin. Mae hyn i brofi llwybr fydd y tyrbinau yn ei gymryd o’r dociau yn Abertawe i fyny i’r safle. Bydd lori estynadwy a heddlu yn hebrwng yn gwneud y daith, gan ffilmio’r weithred gyfan a gwneud nodiadau o unrhyw gelfi stryd fydd angen eu symud. Ni fydd y ffyrdd ar gau.
O’r chwith i’r dde: Darren (Power Systems, contractwyr trydanol), Andreas (Enercon), Alastair (Enercon), Jamie (Raymond Brown), Jaime (Quad Consult), Steve (Raymond Brown), Jamie (Wind Prospect), a Charlotte (Awel).
Conrad Trevelyan
Rydym wedi derbyn newyddion trist iawn fod Conrad Trevelyan wedi’n gadael ni. Ni oedd y prosiect cyntaf i Con weithio arno pan ymunodd â Dulas yn 2003-4, a ni oedd yr olaf. Yn 2003, gwnaeth ddyluniad y safle technegol a arweiniodd at y lleoliad tyrbin a adeiladir yn awr. Goruchwyliodd y newidiadau bychain olaf i’n Asesiad Cynnyrch Gwynt ychydig o fisoedd yn ôl. Ni fyddai ein cynllun yn cael ei adeiladu nawr oni bai am sgiliau Con. Yr un mor bwysig oedd y cymorth ac anogaeth parhaus a roddodd i ni dros y blynyddoedd pan frwydrom i gael caniatâd cynllunio. Rhannodd ein dicter am y ffordd yr oedd ein caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod dro ar ôl tro. Ond cynorthwyodd i’n hysbrydoli y byddem yn cyrraedd y nod yn y pen draw. Con oedd un o’r cyntaf i ymuno â Co-op Awel. Mae ein meddyliau gyda’i gydweithwyr yn Nulas a’i deulu. Roedd yn fraint ei adnabod.
Ymweliadau Aelodau Awel
O dro i dro mae aelodau yn ein hysbysu eu bod wedi bod i fyny at y safle i gael golwg ar yr adeiladwaith. Mae rhwydd hynt i chi fynd i fyny a chael golwg. Os gallwch, anfonwch lun atom. Dyma ymweliad Ian, un o aelodau Awel, gyda’i chwaer yng nghyfraith a neiaint, yn mynd ar hyd y trac tuag at safle’r tyrbinau. Diolch Ian!