Wythnos Un: Y “Bellmouth”
Dechreuwyd adeiladu’r wythnos hon!
Mae ychydig o wynebau ar y safle:
Mae Jamie yn Beiriannydd y Perchennog. Mae’n goruchwylio’r gwaith adeiladu ar ran Awel.
Mae Roger (Rheolwr Safle) a Bethan (Safle Peiriannydd) yn gweithio i Raymond Brown Construction a maen nhw’n goruchwylio gweithrediad y safle adeiladu. Gyfrifoldeb Richard a Nick, tad a mab, yw’r cloddwyr.
Y dasg gyntaf yw creu trac mynediad sy’n galluogu cludiad y tyrbinau i’r safle. Byddant yn dod i fyny trwy Bontardawe, ar hyd yr A474 a byddant yn troi i’r dde, gyferbyn y troad i’r safle tirlenwi. Mae’n rhy sydyn yn troi ar gyfer y tyrbinau, felly mae angen i greu ‘bell-mouth’ wrth y fynedfa. Hon yw beth sydd wedi bod yn digwydd yr wythnos hon. Bydd y rhai ohonoch sy’n byw yn yr ardal wedi sylwi ar y goleuadau traffig dros dro ar y gyffordd hon. Ymddiheuriadau os yw hyn yn achosi unrhyw oediad.
Ar ôl Tenderleaf wedi cael gwared â’r gwrych a choed yn ardal y ‘bell-mouth, malodd David o Stumpbusters i lawr dwy stwmp-goeden mawr cyn i’r JCB dod i mewn. Gloddiwyd Raymond Brown yr ardal , a osodwyd y cynfasau amddiffynnol geotecstil, a defnyddiodd cerrig o’r Gwrhyd i sylfeini’r bell-mouth.
Pan fydd y tyrbinau yn cael eu darparu. Byddant yn dod i fyny drwy’r Pontardawe, ar hyd yr A474, drwy Rhydyfro a byddant yn troi i’r dde i’r lôn gyferbyn â’r safle tirlenwi. Rydym yn adeiladu’r safn wrth y fynedfa i lôn hon i alluogi’r tyrbinau i droi, ac mae’r lôn yn cael ei lledu am tua 200 metr i fyny tuag at y caeau. Bryd hynny, bydd y trac yn dargyfeirio i’r caeau.
Ymhellach i fyny ar y mynydd.
Torrodd Hywel Davies, Ffermwr Lleol, y glaswellt lle bydd y ffordd yn cael ei hadeiladu ar y Comin. Mae hyn er mwyn atal adar rhag nythu yn yr ardal hon. Hefyd adeiladodd ffens i gadw defaid a gwartheg i ffwrdd o’r ardal adeiladu.
Wnaeth cwmni lleol Tenderleaf dorri’n ôl coed yn ardal y bellmouth, a hefyd gwrychoedd fwyaf i fyny’r lôn. Wedyn, wnaeth David o Stumpbusters malu i lawr dwy stwmp-goed mawr cyn i’r cloddwyr dod i mewn.
Ymwelodd rhai aelodau Awel Coop y safle yn ystod yr wythnos:
Rydym wedi ailagor yCynnig Cyfranddaliadau, felly os hoffech fuddsoddi cliciwch yma: Ymunwch Awel