Rhesymau ariannol
- Bydd y prosiect yn dod â refeniw o 7.71c/kWh (Tariff Bwydo I mewn o 2.8c/kWh a chyfradd allforio o 4.91c/kWh), yn seiliedig ar y Tariff Bwydo i Mewn a phrisio trydan cyfredol.
- Gallwch danysgrifio am gyn lleied â £50.
- Byddwch yn derbyn elw rhacamcanol o 5% y flwyddyn.
Rhesymau cymunedol
- Bydd swyddi lleol yn cael eu creu neu eu cadw drwy ddefnyddio contractwyr lleol ar gyfer gosod a chynnal a chadw’r tyrbinau.
- Bydd elw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r elusen leol Awel Aman Tawe i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy eraill. Gallai gwerth yr arian cymunedol lleol hwn fod yn werth mwy na £3 miliwn dros oes y prosiect.
- Byddwch yn helpu tuag at ein nod i fod yn gymuned heb unrhyw garbon erbyn 2030.
Rhesymau amgylcheddol
- Bydd y ddau dyrbin yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi dros 2,500 y flwyddyn gydag ynni glan, adnewyddadwy. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cyflenwi’n uniongyrchol i dai lleol ond ar hyn o bryd nid yw rheoliadau’r DU yn caniatáu hynny, yn wahanol i’r Iseldiroedd a’r Almaen.
- Bydd y tyrbinau yn arbed allyriad 11,800 tunnell o CO2 y flwyddyn, os yw’n cael ei ddefnyddio yn lle trydan llosgi glo.
- Dros 20 mlynedd mae hynny yn 236,000 tunnell, sy’n werthfawr wrth leihau’r perygl o newid hinsawdd.
- Heb son am allyriad sylffwr a nitrogen gronynnol sy’n achosi llygredd aer, a’r niwed i’r tir a’r perygl i fywydau mwyngloddwyr a achosir gan fwyngloddio.