Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Cydweithfa Awel?
Cymdeithas er Budd y Gymuned yw Awel ac mae wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Rhif: 7204
Beth yw’r elw ariannol?
Mae cyfrannau’n derbyn llog rhagamcannol o 5% bob blwyddyn os chi’n prynu nhw ar ol 15/6/2016. Bydd Awel yn talu llog rhagamcannol o 7% ar gyfartaledd y flwyddyn i fuddsoddwyr sy’n ymuno cyn 15/6/2016.
Pryd a sut gallai dynnu fy arian allan?
Dylid ystyried cyfrannau yn Awel fel buddsoddiad hir dymor: nid ydynt fel cyfrif banc neu gyfrannau confensiynol.

Ni ellir gwerthu cyfrannau. Fodd bynnag gellir eu tynnu’n ôl, gan ddibynnu ar ganiatad gan Fwrdd y Gymdeithas.

Gall aelodau dynnu eu cyfrannau’n ol drwy wneud cais i Fwrdd Awel. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, oni bai fod cyfarfod anghyffredin yn cael ei drefnu. Bydd ceisiadau i dynnu’n ôl yn cael eu hystyried ar sail “un i mewn un allan”, oni bai mewn achos o farwolaeth aelod neu amgylchiadau eithriadol.

Mae nifer gyfyngedig o gyfalaf y flwyddyn yng nghronfeydd wrth gefn Awel. Felly, bydd tynnu’n ôl yn cael ei ystyried pan mae swm cyfatebol i ail-gyflenwi’r swm y gwneir cais i’w dynnu’n ôl.

Gall sefydliadau cymunedol neu fasnachol ymuno?
Ydy, mae’n bosibl dod yn aelod fel sefydliad. Mae aelodaeth ar agor i unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n cefnogi bwriadau’r gymdeithas.

Bydd y meini prawf aelodaeth ar gyfer Awel yn destun buddsoddiad cyfranddaliad lleiaf o £50 a buddsoddiad cyfranddaliad mwyaf o £100,000.

Fel gyda’r holl gydweithfaoedd bydd yn cael ei redeg ar bleidlais ddemocrataidd, un aelod un bleidlais, heb ystyried y nifer o gyfrannau a ddelir.

Pwy sy’n cynnal a chadw’r tyrbinau?
Mae Cytundeb cynnal a chadw cadarn gydag Enercon am 15 mlynedd, gan sicrhau fod y tyrbinau’n gweithio am dros 96% o’r amser.

Os oes problem, mae’r Cytundeb yn caniatáu i’r Gydweithfa gael iawndal gan Enercon i barhau ei daliadau i’r banciau ac aelodau.

Rydym wedi siarad â nifer o grwpiau ynni cymunedol sydd wedi bod yn fodlon iawn gydag ansawdd tyrbinau Enercon a pha mor gadarn yw’r cytundeb EPK pe bai pethau’n mynd o’u lle.

Beth sy’n digwydd os yw’r tyrbinau’n torri lawr?
Bydd gan y Gydweithfa ac Enercon gyfleusterau monitro oddi ar y safle (SCADA), ac os oes unrhyw broblemau mi fyddwn yn cael ein hysbysu ac fedrwn actio.
Beth yw’r Tariff Bwydo i Mewn?
Cymhorthdal gan y llywodraeth yw’r Tariff Bwydo i Mewn ar gyfer ynni adnewyddadwy a gyflwynwyd yn y DU ym mis Ebrill 2010, ac mae’n ymdrin â chynlluniau ffotofolatig (PV) hyd at 5MW.

Mae’n cynnwys tair elfen:

  1. Tariff cynhyrchu – mae hwn yn daliad a wneir ar gyfer pob uned o drydan a gynhyrchir. Mae’r swm yn dibynnu ar y maint a’r dyddiad y cafodd ei osod, ond mae’r gyfradd yn warantedig am 20 mlynedd.
  2. Tariff allforio – mae hwn yn daliad pellach (4.85c ar hyn o bryd) sy’n cael ei dalu am bob uned sy’n cael ei allforio i’r grid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r prosiect nad ydynt wedi’u hateb yma neu yn y Ddogfen Cynnig Cyfranddaliadau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu gyda ni.