Dyma Rai o’n Buddsoddwyr Lleol:

    

Terry Pugh o Dairgwaith

Mae Terry wedi adeiladu robot ac mae’n mynd ag ef i ysgolion i addysgu plant am ynni, grymoedd a gwyddor pŵer! Ac mae’n gwybod beth mae’n sôn amdano gan iddo weithio fel ffitiwr mecanyddol yn y pyllau glo am 16 mlynedd. Ar ôl i’r pyllau gau, ailhyfforddodd fel Peiriannydd Electroneg Feddygol a bu’n gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Roedd yn un o aelodau cyntaf Awel Co-op. “Bues i’n gweithio am flynyddoedd yn y diwydiant glo, ond ynni adnewyddadwy yw ein dyfodol. Rydym nid yn unig yn gwneud ynni glân” meddai, “ond rydych hefyd yn teimlo eich bod yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i’r gymuned. ”

Jan Jones o Alltwen
Roedd Jan yn athrawes ysgol gynradd cyn ymgartrefu yn Alltwen 30 mlynedd yn ôl. Wedyn bu’n cyd-redeg cwmni cydweithredol Oriel Stryd y Brenin yng Nghaerfyrddin am lawer o flynyddoedd, gan wneud a gwerthu ei gwaith cerameg a gwydr. Mae wedi ymgyrchu ar hyd ei hoes dros bethau fydd yn arbed ein planed oherwydd, fel y nododd, ‘dim ond un sydd gennym’: pethau fel torri i mewn i atomfeydd, ac eistedd o flaen tryciau. ‘Dwi erioed wedi buddsoddi yn unrhyw beth o’r blaen’ meddai, ‘ond pan glywais am Awel, ymunais ar unwaith. Rwy’n cael cyfle i helpu i adeiladu tyrbinau gwynt sydd ddim yn llygru’r ddaear ac rwy’n cael llog ar fy arian!’

Clare Ford o Gilybebyll 

Cafodd Clare gyfranddaliadau yn Awel fel anrheg Nadolig. “Rydw i mor falch o fod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn fferm wynt” meddai, “Yn enwedig fferm wynt gymunedol ble mae’r arian yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol.” Mae’n frwd am dyfu llysiau ac yn feiciwr egnïol, sy’n mwynhau dringo bryniau serth Cymru. Symudodd yma 25 mlynedd yn ôl fel rhiant sengl ac ymsefydlodd yn y gymuned. Mae’n gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Treforys, ac wrth ddisgrifio’i swydd mae’n dweud, “mae’n fraint cael fy ngwahodd i mewn i fywydau pobl.”

Anna a Nigel Smith o Frynaman

Mae Anna a Nigel wedi byw ym Mrynaman ar hyd eu hoes bron iawn. Maen nhw’n rhedeg busnes lleol yn prynu a gwerthu pethau slawer dydd. Maen nhw’n uwchgylchu, yn atgyweirio, yn creu. Mae Nigel yn hoff iawn o geir a beiciau modur, wel, unrhyw beth sydd ag olwynion. Mae Anna’n gwnïo, crosio ac yn garddio. Maen nhw wrth eu bodd yn gwersylla a mynd ar deithiau cerdded hir gyda’u teulu, “ger afonydd, rhaeadrau a choed, o ddewis” meddai Anna. “Rydym yn credu mewn ynni adnewyddadwy, yn dwli ar y syniad o gael fferm wynt leol ac roeddem yn teimlo y gallen ni fod yn rhan o Awel oherwydd ei bod yn lleol, ac nid yn gorfforaeth ryngwladol ddiwyneb. A gyda llaw”, ychwanegodd, “rydym wedi eu henwi’n Windy Miller a Gustavia”.

Joseph a Zoe Pearce o Bontardawe
Symudodd Joseph, Zoe a Millie, eu Sbaengi Adara, i Bontardawe 3 blynedd yn ôl. Mae Joe yn Syrfëwr Morol ac mae Zoe yn Gyfieithydd. Roedden nhw eisiau bod yn nes at eu gwaith ac at y mynyddoedd ble maen nhw’n hoffi mynd a Millie am dro. “Buddsoddom yn Awel cyn gynted ag y clywsom amdani”, meddai Joseph. “Mae’r ddau ohonom yn ecogefnogwyr brwd, mae gennym gar trydan a thariffau ynni gwyrdd 100%, ond roedd y syniad o gynhyrchu ynni cymunedol yn apelio’n fawr atom a gobeithio bydd y model yn Awel yn floc cychwyn i lawer mwy yn y dyfodol!”

Catrin Campbell o Frynaman
Mae Catrin wedi byw yng Nghwm Aman erioed. Mae’n Bennaeth Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Aman ble mae wedi bod yn gweithio ers 18 mlynedd. “Fel athrawes Ddaearyddiaeth rwy’n ymwybodol o’r newidiadau diweddar yn y cyflenwad a’r galw am ynni” meddai, “ynghyd â phwysigrwydd dod o hyd i ffynonellau ynni cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a all fod o fudd i’r gymuned hefyd”. Mae wedi buddsoddi yn Awel Co-op yn enw ei mab. Mae’n 7 mlwydd oed ac mae’n awyddus i wybod a yw ei enw ar ran o’r tyrbin gwynt!

Linda Bentham o Waun cae Gurwen

Ymsefydlodd Linda yng Ngwaun Cae Gurwen 5 mlynedd yn ôl. Bu’n gweithio i’r Canolfan Byd Gwaith am 27 mlynedd ac mae’n dweud taw helpu pobl oedd yr agwedd orau o’r swydd. Mae nawr yn llyfrgellydd gwirfoddol yn llyfrgell gymunedol Y Lolfa, ac mae ar fin dod yn Gynghorydd Cymuned. “Rwy’n gwrthwynebu ffracio” meddai, ac mae’n credu bod ynni gwynt yn ffordd o fynd i’r afael â newid hinsawdd. “Rwy’n gwenu bob tro byddaf yn nesáu at y pentref ac yn gweld ein tyrbinau’n troi. Dim ond cyfranddaliad bychan sydd gen i, ond rwy’n hapus iawn wrth feddwl bod cymaint o bobl yn gallu bod yn rhan o hyn am bris cyfranddaliad.”

Colin Jones o Frynaman 
Ganwyd Colin Jones yn Ystradowen, ger glofa Cwmllynfell ble rhoddodd y glowyr lleol arian o’u henillion prin i adeiladu neuadd gyhoeddus. Roedd hyn yn golygu y gellid cynnal gweithgareddau fel operâu, sinema, bandiau pres, llyfrgell a snwcer. Ar ôl 9 mlynedd yn y Fyddin, symudodd Colin gyda’i deulu i Frynaman ble bu’n gweithio yn yr ardal fel peiriannydd gwasanaeth i Hotpoint. Roedd yn chwarae rygbi i’r pentref a helpodd i sefydlu Canolfan cymunedol y Mynydd Du. “Mae buddsoddi arian mewn menter fel fferm wynt Awel, sydd yn ei thro yn rhoddi i gynlluniau lleol, yn fy atgoffa o’r balchder a deimlaf dros fy mherthnasau pell a helpodd i greu cyfleoedd i bawb.”

Mike Grogan o Trap
Ymddeolodd Mike i Gymru gyda’i wraig Lesley 12 mlynedd yn ôl ac maen nhw’n byw yn Trap. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd gwaith yn gweithio i gwmni cemegion Bayer. Ers iddo ymddeol mae’n mwynhau gweithio gyda ‘ac yn erbyn’ y Fam Natur i dyfu llysiau a ffrwythau. Mae’n aelod o bwyllgor Cymdeithas Gymuned Trap a Sioe Trap. “Fel llawer o rieni a theidiau a neiniau” meddai, “mae’r bygythiad o newid hinsawdd yn destun pryder. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni wneud popeth y gallwn i leihau ein hôl troed carbon, ac o’r herwydd buddsoddais yn Awel. Mae buddsoddiad lleol yn cadw’r buddiannau o fewn y gymuned. A hefyd,” ychwanegodd “mae’r enillion yn ddeniadol!”

Dewi and Annette Hughes o Gwm Tawe

Mae Cwm Tawe yn agos at galonnau Dewi ac Annette Hughes. Mae’r ddau  wedi gweithio yn y Cwm, Dewi fel gweinidog ac Annette yn athrawes. Maent wedi dod nôl i fyw i Glydach ers ymddeol 12 mlynedd yn ôl. “Cymhellion Cristnogol sydd tu ôl i’n hymdrechion i ddiogelu’r amgylchedd,” meddai Annette. “Mae’r byd a greodd Duw ar ein cyfer yn hardd, ac yn cynnal amrywiaeth mor rhyfeddol o fywyd, yn blanhigion ac yn greaduriaid. Ond,mae’n fyd bregus,a ninnau yn ei gamdrin mor gyson. Rhaid edrych ar ei ôl ar gyfer y genhedlaeth nesa. Dyna pam fod gennym baneli haul ar do ein ty, a’n bod yn cefnogi Awel yn frwd iawn.”

Ryan Morris o Rhos
Mae Ryan wedi byw yn Rhos erioed. Mae ganddo lawer o ddiddordebau a sgiliau – o wneud powlenni pren i adeiladu ei gyfrifiadur ei hun. Mae wedi ymweld â dros ddwsin o ddinasoedd yn Ewrop yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae ganddo sawl buddsoddiad yn barod, yn cynnwys tir, crypto-arian, a dau brif blatfform benthyca cymar wrth gymar, ond ymunodd ag Awel gan ei fod eisiau amrywio ei bortffolio. “Rwy’n credu’n gryf bod y cyfnod o ddibyniaeth ar danwydd ffosil yn dod i ben” meddai. “Rwy’n credu bod datganoli, o ran ynni ac arian cyfred, yn bwysig iawn er mwyn iddynt gael eu rheoli’n effeithlon ac yn gystadleuol, ynghyd â darparu sicrwydd pe byddai trychineb yn digwydd.”

Sonia Reynolds o Dairgwaith
Mae Sonia wedi gweithio erioed mewn sefydliadau cymuned leol yng Nghwm Aman a’r cwmpasoedd, ac ers iddi ymddeol mae wedi cael ei hethol fel Cynghorydd i Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’n credu’n gryf mewn menter gymuned ac mae wedi cefnogi cynigion Awel Aman Tawe i adeiladu fferm wynt yn egnïol o’r cychwyn cyntaf. “Rwy’n ystyried bod buddsoddi yn Awel yn fanteisiol i’r amgylchedd, i’n cymuned ac i minnau,” meddai. “Mae’n rhaid i ni gydio yn ein dyfodol â’n dwy law.” Mae’n mwynhau marchogaeth ei cheffyl ar y mynydd uwchlaw fferm fechan ei theulu, ac mae’n gwerthfawrogi’r mynediad gwell oherwydd y trac newydd ger y tyrbinau.

Jane Burnard o Waun cae Gurwen
Symudodd Jane a’i phartner, Gareth, i Waun Cae Gurwen chwe mis yn ôl. Symudon nhw i mewn i gartref teuluol Gareth. “Roedd mam Gareth yn angerddol dros y prosiect cyfan,” meddai Jane “ac mae hyn yn rhan o’r rheswm pam roedden ni eisiau buddsoddi.” Ond ar ben hynny, ychwanegodd, “Mae buddsoddi mewn ynni glân yn beth amlwg i’w wneud, ynghyd â cheisio helpu’r gymuned ble rydych chi’n byw. Mae’r llog yn well nag unrhyw beth arall sydd o gwmpas ar hyn o bryd. Ac mae mor braf cael gweld eich buddsoddiad yn cylchdroi mor hyfryd ac yn cynhyrchu bob dydd!” Mae Jane yn gweithio ar ei liwt ei hun fel ysgrifennwr a golygydd llyfrau plant. Mae’n mwynhau cerdded, garddio, a dysgu Cymraeg.

Phil Coleman o Bontardawe

Symudodd Phil i Bontardawe yn 1992. Mae’n gweithio i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Mae’n prynu ei drydan domestig gan Ecotricity. Mae ganddo gyfranddaliadau yn Tradecraft hefyd ac mae’n aelod o Phone Co-op. “Dwi’n ceisio rhoi fy arian ar fy ngair,” meddai. “Os ydym angen dyfodol, mae’n rhaid i ni adeiladu dros ein hunain, ac nid aros am y cafalri. Roedd y ganolfan gelfyddydau yn Sefydliad y Glowyr o’r blaen a chafodd hei adeiladu drwy gyfraniadau gan y glowyr. Mae’n rhaid i ni fynd nôl at ffordd gydweithredol o fyw a gwneud pethau dros ein hunain.” Mae’r adenillion o 5% o ynni gwynt yn gyfradd dda ac mae Phil yn buddsoddi gyda chydwybod lân. “Felly mae yn bosib i chi ei chael hi bob ffordd!”