Mae’r fferm wynt gymunedol yn tarddu o gyfarfod Agenda Lleol 21 a drefnwyd gan y Cyngor lleol yn 1998. Awgrymodd y bobl leol ‘pŵer gwynt yn hytrach na chloddio brig.’
Bu i grŵp o wirfoddolwyr symud y prosiect yn ei flaen a sicrhau arian gan yr Adran Fasnach a Diwydiant fel yr oedd bryd hynny i gynnal blwyddyn o ymgynghoriad.
Cymerodd dros 6,000 o bobl ran yn y ddadl mewn nifer o ffyrdd. Ymwelodd 300 â ffermydd gwynt ar fysiau; cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus ym mhob pentref; cynhaliwyd cyfweliadau wedi’u strwythuro ac wedi’u strwythuro’n rhannol, dyddiau agored, gwaith gydag ysgolion; a threfnwyd fod taflenni yn cael eu rhoi i bob tŷ.
Ychydig o sylwadau o’r ymgynghoriad: ‘Wel fechgyn, beth sydd gennym i’w golli!’ (gŵr yng nghyfarfod cyhoeddus Cwmllynfell yn troi at weddill y gynulleidfa).
Bu i ddynes 82 mlwydd oed ffonio’r prosiect i ddweud: ‘Rydym wedi goddef y sŵn a’r llwch o’r cloddfeydd hyn ers blynyddoedd. Pam ydym ni’n poeni am ychydig o felinau gwynt yn canu yn y gwynt?’
Ar ddiwedd y flwyddyn, comisiynwyd y Gwasanaethau Diwygio Etholiadol i gynnal refferendwm annibynnol gan AAT. Dangosodd canlyniadau’r refferendwm cymunedol fod mwyafrif amlwg o bobl yn cefnogi’r syniad o fferm wynt gymunedol. Gwelwyd y lefel uchel o bobl leol yn cymryd rhan yn y nifer fawr o bobl aeth i’r refferendwm (bu i 48.5% o bobl bleidleisio).
Cawsom ein dewis fel astudiaeth achos ar gyfer Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygiad Cynaliadwy yn Johannesburg ym mis Medi 2002 ac roedd yn cynnwys canllawiau cynllunio ar ynni gwynt a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn 2005.
Wrth i ni ddatblygu, rydym wedi ehangu ein gwaith i gynnwys pob math o ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a chodi ymwybyddiaeth trwy’r celfyddydau.
Derbyniom ein caniatâd cynllunio yn 2009 (ac fe’i hadnewyddwyd yn 2014) a’n caniatâd Tir Comin yn 2012.