Crynodeb o’r prosiect

Montage ffotograffig o’r safle. Cliciwch am fersiwn fwy.

Y safle

Bydd y ddau dyrbin wedi’u lleoli ar Fynydd y Gwrhyd sydd tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Mae un tyrbin ar dir comin a’r llall ar dir fferm cyfagos. Mae Opsiynau/Prydlesi ar waith gyda’r ddau berchennog tir. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio llawn cyfoes ar gyfer dau dyrbin gwynt, trac mynediad, is-orsaf a chwrt gwaith a chysylltiad grid diogel.

Yr adnoddau gwynt

Cynhaliwyd Asesiad Adnoddau Gwynt gan Dulas Ltd yn seiliedig ar ddwy flynedd o ddata ar y safle o fast met 60m. Mae’r data hwn wedi’i wneud yn berthnasol i ddata lleol Swyddfa’r Tywydd. Mae Dulas wedi rhagfynegi cyfartaledd o 12,404 MWH y flwyddyn o gynnyrch (P50) yn seiliedig ar y Gromlin Pŵer gwarantedig ar gyfer y tyrbin hwn.

Rhagfynegiad o allbwn ynni yw’r ffigwr P50 sy’n ystyried colledion yn y system. Tyrbinau Enercon E82 2.35MW yw’r tyrbinau sy’n cael eu ffafrio ar gyfer y safle hwn ac rydym wedi arwyddo Cytundeb Cyflenwi Tyrbinau gydag Enercon. Mae gan Enercon enw da iawn ar gyfer dylunio tyrbinau ac maen nhw wedi dangos gwir ymroddiad i’r sector ynni cymunedol yn y DU, gan gyflenwi nifer o’r tyrbinau sy’n cael eu defnyddio.

Manylion y tyrbin

Enercon turbine height

    Paramedr

    Gwerth

Cyfanswm uchder uwch top y ddaear (GOK) 99.90m
Uchder hwb uwch brig y ddaear (GOK) 58.90m
Uchder y tîr uwch brig y sylfaen 57.32m
Dyluniad Tŵr dur
Parth gwynt (DIBt –, DIN –)
WTC (IEC 61400-1) WTC IIA
Nifer o adrannau dur 4

    Hyd

    Diamedr

    Màs

I mewn m DTOP mewn m DGWAELOD mewn m m mewn t
Adran 1 23.24 2.25/2.491 2.95 43
Adran 2 20.98 2.95 4.03 58
Adran 3 11.77 4.03 4.3 60
Adran 4 1.35 4.3 4.45/4.771 13
Basged sylfaen 1.8 amh1 4.741 7
Cyfanswm màs y tŵr 181
1Diamedr fflans y tu allan

Croestoriad o nàsel E-82 E4

cross-section

  1. Uned cylch llithro
  2. Hwb
  3. Addaswr Llafn
  4. Stator generadur
  5. Rotor generadur
  6. Gorchudd stator
  7. Cist unioni
  8. Cist ffilter generadur
  9. Blwch rheolydd ysgogiad
  10. Cist trawsnewid nasel
  11. Gyrrwr gwyro
  12. Prif gludwr
  13. Ymestyniad i’r llafn
  14. Llafn rotor

Ymchwiliad safle

Cyflawnodd Natural Power Ymchwiliad Safle ym mis Gorffennaf 2014 a oedd yn cynnwys 50 o dyllau turio yn safleoedd y tyrbin a’r is-orsaf, a chreu tyllau treial ar draws yr holl safle. Ni chanfuwyd unrhyw amodau tir problemus felly disgwylir adeiladu arferol.

Peirianneg sifil

Yn dilyn proses dendro gystadleuol, mae contractwr peirianneg sifil profiadol, Raymond Brown Construction, wedi’i benodi i adeiladu’r cynllun. Maen nhw’n gwmni lleol ac maen nhw wedi adeiladu nifer fawr o ffermydd gwynt ledled y DU. Mae ganddyn nhw berthynas wych gydag Enercon, ac wedi adeiladu 50% o’u tyrbinau yn y DU.

Gwerthiant ac incwm trydan

Bydd y trydan fydd yn cael ei gynhyrchu gan y tyrbinau yn cael ei allforio i’r grid lleol drwy gysylltiad 33kW 300m o’r safle. Mae’r cysylltiad grid wedi’i ddiogelu gan flaendal ar gyfer y cynhwysedd 4.7MW llawn.

Bydd y Gydweithfa yn ceisio gwneud gymaint o incwm a phosibl drwy gael prisiau gan brif brynwyr ynni ar gyfer prynu ynni.

Yn ogystal â hynny, bydd y Gydweithfa yn derbyn Tariff Bwydo i Mewn. Gwnaed cais am Achrediad Rhagarweiniol ar gyfer y Tariff Bwydo i Mewn ym mis Medi 2015 er mwyn sicrhau y bydd cyfradd y Tariff Bwydo i Mewn oedd mewn grym bryd hynny, 2.81c/kWh, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn. Mae Achrediad Rhagarweiniol yn cadw’r gyfradd gyfredol am 13 mis ac mae’n rhaid i’r tyrbinau fod yn cynhyrchu cyn diwedd mis Mawrth 2017.