Bydd dau dyrbin wedi’u lleoli ar Fynydd y Gwrhyd sydd 20 milltir i’r Gogledd o Abertawe. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio llawn cyfoes ar gyfer dau dyrbin gwynt, trac mynediad, is-orsaf a chwrt gwaith a chysylltiad grid diogel.
Rhagwelir y bydd y tyrbinau’n cynhyrchu tua 12,404 MWh o ynni glân yn flynyddol, digon i gyflenwi dros 2,500 o dai y flwyddyn. Bydd hyn yn dod â refeniw o 7.71c/kWh (Tariff Bwydo I Mewn o 2.8c/kWh a chyfradd allforio o 4.91c/kWh), yn seiliedig ar y Tariff Bwydo i Mewn a phrisio trydan cyfredol.