Pob cofnod gan Dan McCallum

Ymweliad â’r safle â fferm wynt Awel Coop a chwrs ysgrifennu newid hinsawdd

Rwy’n anfon y gwahoddiad isod atoch ynglŷn a cyfle i ymweld â prosiect ynni cymunedol ac i ddeall mwy am y sector yma yng Nghymru.

Mae’r digwyddiad yma yn cael eu trefnu yn benodol go gyfer swyddogion o fewn awdurdodau lleol Cymru (yn enwedig swyddogion â arbenigedd yn datblygu economaidd, cynllunio, datblygu cymunedol a materion yn ymwneud â’r amgylchedd) ac aelodau cymdeithasau sifil a’r trydydd sector, fel modd o ehangu dealltwriaeth o’r sector ynni cymunedol, a sut mae bosib cydweithio er mwyn sicrhau perchnogaeth leol o adnoddau a prosiectau ynni adnewyddadwy y dyfodol.

Mi fydd un o’r digwyddiadau a’u threfnir yn ymweld â phrosiect ynni gwynt cymunedol Awel Aman Tawe, Cwmllynfell, ar y 16fed o Fawrth. Mi fase’n wych cael eich cwmni ac eich mewnbwn ar y diwrnod. Cysylltwch â Sioned Haf (sioned.haf@bangor.ac.uk) am fwy o wybodaeth, a gallwch arbed eich lle drwy dilyn y ddolen hon: http://communityenergywales.org.uk/cy/ehangu-dealltwriaeth-sector-ynni-cymunedol-yng-nghymru/

Hefyd:
“Ysgrifennu am Newid Hinsawdd” – cwrs ysgrifennu preswyl dros benwythnos yn Nhŷ Newydd, Cricieth, Gogledd Cymru.
Y gwanwyn hwn, bydd cydsylfaenydd Awel Aman Tawe, Emily Hinshelwood, yn rhedeg cwrs gyda’r ysgrifennwr, David Thorpe, ar sut i ysgrifennu am y Newid yn yr Hinsawdd.
Gwe 23 Maw – Sul 25 Maw 2018
Ffi’r Cwrs: O £220 i £295 y pen
http://www.tynewydd.wales/course/writing-climate-change/

Ar y cwrs hwn byddwn yn arbrofi gydag amrywiaeth o wahanol ddulliau o ysgrifennu am y newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn ystyried sut i dynnu ar ein hadweithiau emosiynol, defnyddio ymchwil, dychmygu senarios posibl, a chreu storïau ystyrlon. Sut ydyn ni’n dwyn i’r golwg ac yn ysgrifennu am y cyswllt hwnnw, sy’n aml ynghudd, rhwng ein defnydd afradlon o danwydd ffosil a cholli cynefin, bywyd a ffordd o fyw, a brofir gan lawer o bobl yn y byd yn barod? P’un ai rydych yn fardd, yn ysgrifennwr ffuglen, neu mae’n well gennych ysgrifennu ffeithiol, byddwn yn trafod amrywiol agweddau ar newid hinsawdd a sut mae ei effaith yn cael ei deimlo gan gyfranogwyr ar y cwrs hwn a phobl ledled y byd.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ynni cymunedol

Mae Awel Co-op yn croesawu penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i beidio â chodi ardrethi busnes ar y fferm wynt gymunedol tan 2019.

Meddai Dan McCallum, Cyfarwyddwr Awel Co-op, “Rydym yn wir ddiolchgar am y gefnogaeth hon. Mae’r Cyngor wedi dangos cefnogaeth gadarn i’r sector ynni cymunedol yn lleol a nhw yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi gostyngiad o 100% yn yr ardrethi. Mae’r arbediad hwn yn werth £68,000 i’n prosiect felly mae’n un sylweddol iawn. Mae’n arbennig o bwysig i ni yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn ar ein fferm wynt gan ei fod o gymorth mawr gyda’n llif arian. Mae’r cyngor wedi dangos yn glir ei fod eisiau cefnogi’r sector gwirfoddol yn y fwrdeistref, ac rydym yn wir werthfawrogi hyn ar adeg pan fod y cyngor ei hunan yn gorfod gwneud toriadau cyllid anodd.

Rydym yn ystyried ffyrdd o gynnig cyfranddaliadau i sefydliadau yn y gymuned leol yn sgil yr arbediad hwn.

Mae Castell-nedd Port Talbot wedi dangos synnwyr busnes craff oherwydd, wrth wneud hyn, bydd yn gallu cadw mwy o gyllid yn yr economi leol. Trwy roddi cyfranddaliadau i grwpiau cymunedol lleol, gallwn ddefnyddio’r arbediad i ailariannu ein benthyciad gan Lywodraeth Cymru sydd ar gyfradd llog o 7.5%. Mae ein cyfranddaliadau cwmni cydweithredol yn cynnig cyfradd llog o 5%. Bydd hyn yn fuddiol iawn i grwpiau lleol a bydd yn cadw arian yn lleol yn hytrach na thalu mwy o log i Lywodraeth Cymru. Gellid gweld arbediad cyffredinol a budd economaidd lleol o £450k dros oes y prosiect.”

Comisiynodd Awel Co-op ei fferm wynt 4.7MW yn Ionawr 2017. Mae’r prosiect wedi rhagori ar ei dargedau, gan gynhyrchu 11,594,700 kwh o drydan – digon i gyflenwi tua 2500 o gartrefi. Mae wedi codi dros £2.5m drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol – y swm uchaf erioed yng Nghymru, ac mae’n ceisio codi £3m fel y bydd y prosiect yn perthyn i gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl yng Nghymru. Gwerth cyfalaf y fferm wynt yw £8.25m ac mae’n cael ei chydariannu drwy fenthyciad o £5.25m gan Triodos.

Mae ein cynnig cyfranddaliadau ar agor o hyd ar www.awel.coop felly beth am ymuno â ni!

Ffawdelw ynni glân i ysgol a grwpiau cymunedol yng Nghwm Aman

Bydd fferm wynt Awel Co-op yng Nghwm Aman yn rhoddi cyfranddaliadau gwerth dros £30,000 i grwpiau cymunedol lleol y Nadolig hwn.

Un o’r buddiolwyr cyntaf yw Ysgol Gynradd Tairgwaith a dderbyniodd gyfranddaliadau gwerth £500 a thystysgrif berchenogaeth yn ystod ymweliad diweddar gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6.

Mae ymweliad yr ysgol yn ymddangos mewn ffilm fer, y gallwch ei gweld yma:

Cafodd y fferm wynt, a leolir tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe, ei chomisiynu ym mis Ionawr ar ôl derbyn benthyciad o £5.25m gan Triodos, y prif fanc cynaliadwy yn Ewrop. Dyma un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yng Nghwm Aman.

Ynghyd â darparu digon o ynni glân i bweru 2,500 o gartrefi bob blwyddyn, mae’r ddau dyrbin gwynt 2.35MWh yn cynhyrchu refeniw sydd wedyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.

Yn ogystal â’r rhodd i Dairgwaith, mae’r cwmni cydweithredol cymunedol sy’n berchen ar y fferm wynt wedi rhoddi cyfranddaliadau gwerth £500 yr un i Feithrinfa Tiddlywinks yn Ystalyfera, Ceiswyr Lloches Bae Abertawe a Chanolfan Maerdy, sy’n elusen adfywio leol. Mae cyfranddaliadau ychwanegol gwerth £30,000 wedi eu clustnodi ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.

Tiddlywinks yn ymweld â’r tyrbinau

Esboniodd Dan McCallum, y cyfarwyddwr sefydlol, a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes gan Adfywio Cymru yn ddiweddar mewn cydnabyddiaeth o’i waith arloesol yn mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Mae fferm wynt Awel Co-op yn brosiect ynni cymunedol ac rydym eisiau i’n tyrbinau fod yn perthyn i gymaint o bobl a grwpiau lleol â phosibl. Roeddem wrth ein bodd o fedru rhoddi cyfranddaliadau i Ysgol Gynradd Tairgwaith a fydd yn elwa ar enillion rhagamcanol o 5% y flwyddyn am 20 mlynedd ar eu buddsoddiad o £500.

Mae’r fferm wynt yn adnodd addysgol anhygoel yn barod, gan addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd cynaliadwyedd, ond roeddem eisiau mynd cam ymhellach. Nawr bydd disgyblion Tairgwaith yn gallu ymweld â’r safle pa bryd bynnag y mynnont a dweud, ‘rydym ninnau’n berchen ar y tyrbinau gwynt hyn!’.

Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl o gwbl heb gymorth ariannol Banc Triodos, sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd ac sy’n parhau i’n cefnogi wrth i ni gyrraedd carreg filltir arall, diwedd ein blwyddyn lawn gyntaf o weithredu.

Mae ein cynnig cyfranddaliadau yn agored i’r cyhoedd o hyd – nes i ni gyrraedd ein targed o £3 miliwn. Hyd yma, rydym wedi codi £2.5 miliwn. Ewch i www.awel.coop os hoffech ymuno â ni!

Meddai Steve Moore, Rheolwr Perthnasoedd Triodos Bank UK: “Ym Manc Triodos, rydym yn buddsoddi mewn pobl a phrosiectau sy’n sbarduno newid amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol.

Mae Awel Co-op yn fodel o gynaliadwyedd – yn darparu digon o ynni glân i gyflenwi miloedd o gartrefi ynghyd â chynhyrchu refeniw ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol – ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r stori arbennig hon.

Mae Banc Triodos wedi lansio cyfrif cyfredol personol newydd eleni, a chawsant eu hysbrydoli gymaint gan waith Awel Co-op, fel iddynt fynd ag un o’u cwsmeriaid, Kathryn Chandler, sy’n byw yn Abertawe, i gwrdd â Dan a disgyblion Tairgwaith ac i weld y tyrbinau dros ei hunan.

Roedd Kathryn yn falch iawn o ddarganfod bod yr arian mae hi’n ei fuddsoddi yn helpu i gynhyrchu ynni glân ar gyfer cartrefi lleol. Esboniodd: “Rwy’n bancio gyda Triodos oherwydd ei fod yn fanc moesegol ac roeddwn eisiau dewis banc rwy’n credu ynddo ac sy’n buddsoddi arian mewn prosiectau rwy’n credu ynddynt.

Mae Triodos yn agored ynglŷn â ble maent yn gosod eu harian ac i bwy maent yn benthyg ac mae’n bwysig i mi fy mod yn cynilo gyda banc sy’n ystyried y buddiannau i bobl eraill, ynghyd ag i minnau.

Mae’r prosiectau eraill a ariennir gan Fanc Triodos yn cynnwys Eglwys Gymunedol Baglan ym Mhort Talbot, Cartref Nyrsio Glangarnant yn Rhydaman, Cwmni Cydweithredol Tai Rhuddin yng Nghydweli a Fferm Tŷ’r Eithin yn Llanelli.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Banc Triodos a’r prosiectau maent yn buddsoddi ynddynt, ewch i triodos.co.uk/changemakers. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag Awel Co-op, ewch i www.awel.coop

-DIWEDD-

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Faye Holst – 07521 898 970 – faye.holst@greenhousepr.co.uk

Helen Bell – 07880 560 233 – helen.bell@greenhousepr.co.uk

Ynglŷn â Banc Triodos

Mae Banc Triodos yn arloeswr byd-eang mewn bancio cynaliadwy gan ddefnyddio grym cyllid i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n dda i bobl ac i’r blaned. Mae Triodos yn defnyddio’i €13.5 biliwn (2016) mewn asedau i greu gwerth cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol mewn ffordd dryloyw a chynaliadwy.

Mae gweithrediadau Banc Triodos yn y DU wedi’u lleoli ym Mryste, ac mae ganddo ganghennau yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Almaen ac asiantaeth yn Ffrainc. Yn fyd-eang, mae gan Fanc Triodos brosiectau microgyllid yng Nghanol Asia a Dwyrain Ewrop, ac mae’n aelod sefydlol o’r Global Alliance for Banking on Values (GABV), sef rhwydwaith byd-eang o 43 o fanciau sy’n ceisio trawsnewid cyllid yn gyfrwng dylanwad cadarnhaol.

www.triodos.co.uk

www.knowwhereyourmoneygoes.co.uk

www.twitter.com/triodosuk

www.facebook.com/triodosbankuk

Ynglŷn ag Awel Co-op

Mae Awel yn gymdeithas budd cymunedol a sefydlwyd yn Medi 2015 gan Awel Aman Tawe, sef elusen ynni cymunedol.

Mae ein tyrbinau wedi’u lleoli ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Rhagwelir y bydd y tyrbinau’n cynhyrchu’r swm amcangyfrifedig o 12,404 MWh o ynni glân yn flynyddol, digon i gyflewni dros 2,500 o gartrefi bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynhyrchu tua £3m dros 25 mlynedd nesaf y fferm wynt i ariannu prosiectau carbon isel yn y gymuned.

http://awel.coop

Triodos Bank NV (corfforedig dan ddeddfau’r Iseldiroedd gydag atebolrwydd cyfyngedig, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr BR3012). Awdurdodwyd gan y Dutch Central Bank ac mae’n ddarostyngedig i reoleiddio cyfyngedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential. Mae manylion ynglŷn â maint ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential ar gael gennym ar gais.

Anrhydedd Blwyddyn Newydd i Ynni Cymunedol

Mae Dan McCallum, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd gydag MBE am wasanaethau i ynni cymunedol yng Nghymru.

Mae hyn yn gydnabyddiaeth bwysig o’n fferm wynt gymunedol ac o’r gwaith a wnaed gan ein staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr dros y 18 mlynedd diwethaf. Mae ein prosiect wedi dod yn rhan o fudiad yng Nghymru sy’n ceisio sicrhau mwy o berchenogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy ac sydd bellach yn cynnwys llawer o bobl a sefydliadau. Bu datblygu ein prosiect yn waith anodd, ond mae’n ysbrydoledig i ni weld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn ei sgil gan gymunedau ledled Cymru.

Llun gan Mike Harrison, aelod o Awel Co-op

Mae gan ynni cymunedol y potensial unigryw i fedru dod â chymunedau at ei gilydd yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a hefyd i gadw cyllid o’u hadnoddau ynni o fewn y cymunedau hynny.

Comisiynodd Awel Co-op ei fferm wynt 4.7MW yn Ionawr 2017. Mae’r prosiect wedi cynhyrchu mwy na 10GW o drydan, digon i gyflenwi tua 2500 o gartrefi bob blwyddyn.  Mae wedi codi dros £2.5m drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol, y swm uchaf erioed yng Nghymru, ac mae’n ceisio codi £3m fel y bydd y prosiect yn perthyn i gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl yng Nghymru. Gwerth cyfalaf y fferm wynt yw £8.25m ac mae’n cael ei chydariannu gan fenthyciad o £5.25m gan Triodos.

 

Mae stori ynni cymunedol yng Nghymru yn un barhaus a gall pobl ymuno â hi o hyd. Mae ein cynnig cyfranddaliadau ninnau yn agored o hyd ar www.awel.coop, ac mae’r prosiectau cyffrous eraill sydd â chynigion cyfranddaliadau agored neu sydd ar fin lansio cynigion newydd yn cynnwys www.ynniteg.cymruCarmarthenshire Energywww.egni.coop a www.gowerpower.coop. Mae’r gwaith yn cwmpasu’r holl dechnolegau yn cynnwys gwynt, hydro a’r cwmni cyflenwi lleol arloesol cyffrous, Ynni Ogwen. Cafwyd cydweithrediad gwobrwyedig hefyd rhwng awdurdodau lleol fel Cyngor Abertawe ac Ynni Cymunedol Abertawe. Gan symud ymlaen, mae menter ar y cyd newydd gyffrous yng nghoedwig Alwen yng Ngogledd Cymru rhwng Innogy ac Ynni Cymunedol Cymru a fydd yn gweld cyfran gymunedol o 15% yn y fferm wynt arfaethedig newydd yno.

Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth hefyd gan ei bod wedi cefnogi’r holl brosiectau uchod trwy’r rhaglen Ynni Lleol sy’n rhoi cyllid a chyngor. Mae hefyd wedi rhoi cymorth polisi, gyda tharged newydd ar gyfer ynni lleol o 1GW erbyn 2030 a bod yr holl adnewyddion yn cynnwys elfen o berchenogaeth leol erbyn 2020. Mae hyn wedi helpu i ddenu adnoddau ychwanegol i’r sector ynni cymunedol fel Robert Owen Community Banking, Banc Triodos a Banc Datblygu Cymru.

 

Dros 7 miliwn o kwh … ac enwebiadau am dau wobr

Mae’r Hydref yn amser da o’r flwyddyn ar gyfer ein tyrbinau gwynt, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rownd derfynol mewn dau wobr – y Prosiect Ynni Cynaliadwy gorau yng Ngwobrau Regen SW a’r enw da ‘Er Gwaethaf Popeth – Yr enghraifft orau o fod yn benderfynol o fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol’ gan Adfywio Cymru.

Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau ar agor tan Hydref 31ain felly rydym yn gobeithio eich bod yn ymuno â ni.

Ydyn ni’n atyniad i dwristiaid?

Daeth dros 60 o fuddsoddwyr ac aelodau o’r cyhoedd i’n Diwrnod Agored cyntaf ers i’r tyrbinau ddod yn llawn weithredol. Daeth dros 200 y llynedd yn ystod y gwaith adeiladu. Rydym o’r farn fod hyn yn awgrymu bod llawer o bobl yn hoffi tyrbinau gwynt, yn enwedig rhai y gallwch fod yn berchen arnynt!

Mae rhai o’n hymwelwyr ar y Diwrnod Agored

Roedd ein Diwrnod Agored yn rhan o Bythefnos Ynni Cymunedol. Roedd y golygfeydd yn ysblennydd lawr at Fae Abertawe gydag arfordir Gogledd Dyfnaint yn hollol glir. Gellid hyd yn oed gweld Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.

Rydym bellach wedi cynhyrchu bron 5 miliwn kwh o ynni glân ers i’r tyrbinau gael eu comisiynu ar ddiwedd Ionawr.

Zoe a Millie y ci!Yn ystod Pythefnos Ynni Cymunedol, cyhoeddwyd hefyd yr Adroddiad Cyflwr y Sector ym Manceinion y penwythnos diwethaf, a ddangosodd bod y sector wedi saethu i fyny i £190 miliwn.

  • Mae o leiaf 30,000 o bobl wedi buddsoddi mewn grwpiau ynni cymunedol
  • Mae’r mudiad wedi adeiladu capasiti o 188 MW o ynni adnewyddadwy

Roedd llai na deg sefydliad ynni cymunedol yn bodoli yn 2010. Nawr mae 222 o grwpiau ynni cymunedol yn bodoli ar draws y wlad

Mae’r rhan fwyaf o’r arian a godwyd wedi bod drwy fentrau cydweithredol (roedd 186 o’r 222 sefydliad a arolygwyd yn Gymdeithasau Budd Cymunedol, sef math ar gwmni cydweithredol fel Awel). Mae hyn yn helpu i ddangos ymrwymiad sylfaenol tymor hir i ynni adnewyddadwy.

Mae Cynnig Cyfranddaliadau Awel ar agor o hyd gydag enillion blynyddol o 5% tan ddiwedd Gorffennaf. Ymunwch â ni!

Awel Co-op ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Ddiwydiant Bwysig

Mae prosiect fferm wynt gymunedol Awel Coop ger Abertawe wedi ei enwebu yn y categori ‘Llunio Lleoedd a Arweinir gan y Gymuned’ yng Ngwobrau Cynllunio 2017.

Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod gwaith eithriadol mewn meysydd fel cynllunio seilwaith, cyfranogiad rhanddeiliaid a chaniatâd cynllunio, ynghyd â llunio lleoedd, dylunio trefol, datblygu economaidd, tai, adfywio, cyngor cyfreithiol ac ymgynghori amgylcheddol.

Meddai’r Cyfarwyddwr, Dan McCallum “Rydym wrth ein bodd o gael bod ar y rhestr fer. Cymerodd 18 mlynedd i ni lywio’r prosiect hwn o’r cam cynllunio i’r adeiladu. Mae’n bwysig bod y system gynllunio yn rhoi mwy o ystyriaeth i lunio lleoedd cymunedol gan mai dyma oedd ein gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf. Roeddem eisiau harneisio ased lleol, sef y gwynt, i alluogi adfywio lleol. Mae’n fendigedig gweld ein tyrbinau yn eu lle bellach yn cynhyrchu ynni glân, ac rydym eisiau annog mwy o bobl i ymweld â’n safle. Rydym yn cynnal Diwrnod Agored ar 4 Gorffennaf rhwng 4 – 8pm. Mae croeso i bawb – anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk neu ffoniwch 01639 830870 i fwcio lle. Byddwn yn darapru te, coffi a phice ar y maen wedi’u pweru gan y gwynt!”

Mae’r prosiect yn perthyn i’r cwmni cydweithredol lleol, Awel Coop, ac mae’n cynnwys dau dyrbin gwynt Enercon 2.35MWh a ddechreuodd gynhyrchu ym mis Ionawr. Rydym yn disgwyl cynhyrchu tua 12,558 MWh o ynni carbon isel glân bob blwyddyn, sy’n ddigon i gyflenwi dros 2000 o gartrefi.

Lleolir y fferm wynt ar Fynydd y Gwrhyd, yn agos i dref Pontardawe a thua 20 milltir o ogledd Abertawe, ac yn ddiweddar sicrhaodd un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yn Nyffryn Aman: buddsoddiad 15 mlynedd, gwerth £5.25m, gan Triodos, prif fanc cynaliadwy Ewrop.

Ychwanegodd Dan “Yn ogystal â Triodos, rydym eisiau diolch i’n cynghorwyr sydd wedi gweithio’n galed gyda ni dros lawer o flynyddoedd i sicrhau caniatâd cynllunio – Dulas, ADAS a’n tîm cyfreithiol yn Burges Salmon.”

Mae’r cwmni cydweithredol hefyd wedi codi £2.3m yn ychwanegol drwy’r cynnig cyfranddaliadau mwyaf erioed yng Nghymru. Nod y cynnig cyfranddaliadau yw codi cyfanswm o £3m cyn diwedd Gorffennaf a fydd yn ei alluogi i ailariannu benthyciad gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot;  y chwedl rygbi Cymreig, Paul Thorburn; Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke; a Paul Allen o’r Canolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, Powys.

Cyhoeddir yr enillwyr yn Savoy Place yn Llundain heno.

 

Cyhoeddi ymuno â 10:10 a Diwrnod Agored newydd

Mae’n Bythefnos Ynni Cymunedol rhwng 24 Mehefin a 9 Gorffennaf ac ym mhob rhan o’r wlad bydd digwyddiadau i symbylu pobl i gefnogi ynni glân.  I ddathlu hyn ac i dynnu sylw at Ddiwrnod Gwynt Byd-eang (heddiw!), rydym yn agor un o dyrbinau Awel fel y gall pobl weld y tu mewn i dyrbin gwynt. Felly os hoffech weld y tu mewn i un o’r tyrau hyn, dewch yn eich blaen i’n Diwrnod Agored ar 4 Gorffennaf. Byddwn yn cynnig te a choffi, a phice ar y maen,  wedi’u pweru â gwynt!

Mae’n ddigwyddiad galw heibio – rhwng 4pm ac 8pm. Mae’r safle ar Fynydd y Gwrhyd – tua 5 milltir i’r gogledd o Bontardawe ac 20 milltir i’r gogledd o Abertawe gyda golygfeydd ysblennydd. Y cod post agosaf yw SA8 4TA ac mae map yma. Mae parcio ar gael felly nid oes angen cerdded. Anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk i fwcio eich lle. Byddwn yn nhafarn y Queen of Hearts yng Nghwm-gors wedyn i ateb unrhyw gwestiynau a rhannu peint!

Rydym hefyd wedi ymuno â’r elusen, 10:10, sy’n rhedeg ymgyrch gwych i gefnogi ynni gwynt yn y DU. Mae 10:10 wedi sefydlu apêl cyllid tyrfa i brynu gwerth £250 o gyfranddaliadau yng Nghwmni Cydweithredol Awel i’w rhoi i Sajid Javid, y Gweinidog sy’n gyfrifol am bolisi ynni gwynt, ac Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Wrthblaid, Teresa Pearce. Bydd hyn yn rhoi chwa o bŵer gwynt cymunedol Cymreig i wleidyddion allweddol yn y gobaith y bydd hyn yn helpu i lywio’u polisïau yn y dyfodol. Gallwch weld yr ymgyrch a’r gefnogaeth yma.

Mae amser o hyd i fuddsoddi yn ein Cynnig Cyfranddaliadau a gallwch ymuno â ni am leiafswm o £50. Rydym wedi codi bron £2.3m hyd yma o’n targed o £3m ac wedi cael benthyciad o £5.25m gan Triodos Bank. Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau parhaus yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciad gan Lywodraeth Cymru – rydym yn awyddus i ailariannu gan fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig iawn i ynni adnewyddadwy cymunedol a gellir defnyddio’r arian hwn i gefnogi mwy o brosiectau.

Mae ein tyrbinau’n cynhyrchu mwy na’r rhagfynegiad – 4,525,600 kWh hyd yma ers i’r tyrbinau gael eu comisiynu ar 25 Ionawr (mae llun o’n mesurydd yma). Gwyliwch y ffilm syfrdanol o’r tyrbinau’n mynd i fyny. Darllenwch fwy ar www.awel.coop a llenwch ffurflen gais  am gyfranddaliadau! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni ar 01639 830870 neu anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk.