Dan McCallum
Mae Dan yn gyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, elusen ynni gymunedol ac mae wedi bod yn rheolwr ers 2000. Mae Dan wedi bod yn rhan o bob agwedd o’r prosiect ers y dechrau ac mae wedi rhannu ei brofiad gydag ystod o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU. Mae’n gweithio gyda DECC fel rhan o’r Grŵp Contact sydd wedi helpu i ddatblygu Strategaeth Ynni Cymunedol cyntaf y DU. Mae ganddo radd BA 2.1 mewn hanes fodern o Brifysgol Rhydychen. Mae ei brofiad gwaith yn cynnwys dwy flynedd fel Cydlynydd Rhaglen i Oxfam yn Iraqi Kurdistan, a dwy flynedd fel Rheolwr Rhaglen y De Ddwyrain ac Affrica i’r Minority Rights Group.
Carl Richards, Swyddog Cyllid
Mae Carl wedi ei gyflogi gan Awel Aman Tawe ers 2000. Cafodd ei hyfforddi i ddechrau i gynorthwyo gyda’r ymgynghoriad cymunedol yn ymwneud a’r fferm wynt. Mae Carl wedi rhoi llawer iawn o amser gwirfoddol i Awel Aman Tawe. Yn y blynyddoedd diweddar, Carl sydd wedi llenwi rôl y Swyddog Cyllid Mae ganddo Ddiploma Lefel 3 gan yr Athrofa Ceidwaid Cyfrifon. Mae Carl yn byw’n lleol ym mhentref Brynaman, mae’n hanesydd brwd ac yn siaradwr Cymraeg. Mae ganddo radd mewn Cemeg. Mae Carl yn aelod ac yn gyfarwyddwr o Egni.
Mary Ann Brocklesby
Mae Mary Ann yn ddatblygiad cymdeithasol gydag 20 mlynedd o brofiad gyda chyngor polisi, rheoli rhaglenni, ac ymchwil yn Asia, Affrica, Ewrop a’r DU. Mae wedi bod yn Gadeirydd Awel Aman Tawe am saith mlynedd ac mae wedi datblygu arbenigedd mewn materion ynni adnewyddadwy dros y cyfnod hwn. Mae’n cefnogi nifer o brosiectau ynni cymunedol. Mae wedi byw a gweithio yn y gorffennol yng Nghameroon ac Indonesia am dair blynedd a phum mlynedd yn eu tro. Yng Nghameroon, roedd Mary Ann yn rhan o ddatblygu capasiti datblygiad cymdeithasol, gan gynnwys sgiliau rheoli gwrthdaro mewn llywodraeth a sefydliadau cymdeithas sifil sy’n ymwneud a chadwraeth bioamrywiaeth ac yn Indonesia, adeiladu capasiti ar gyfer yr NGOau a’u rhoi yn y brif ffrwd.
Brian Jones
Dysgodd Brian yng Ngholeg Nedd Port Talbot ers iddo symud nes iddo ymddeol ym mis Awst 2014. Roedd yn Gynghorydd Cymunedol am 8 mlynedd, ac yn llywodraethwr ysgol am 5 mlynedd. Am bleser, mae’n mwynhau darllen ffuglen (yn Gymraeg a Saesneg), ac mae’n chwarae’r clarinét gyda Cherddorfa Gymunedol Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg, ac am ei flwyddyn lleoliad gwaith gweithiodd yn y Sefydliad Ymchwil Ynni Atomig yn Harwell. Mae wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd pwer ac yn erbyn arfau niwclear erioed ers hynny, a gyda rhai ymgyrchoedd cynyddol eraill. Mae wedi buddsoddi yng Nghydweithfa Egni.
Dr Suzanne Bevan
Swyddog ymchwil, Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas (SOTEAS), Prifysgol Abertawe. Mae’n arbenigwr ar newid hinsawdd ac mae wedi gweithio i Swyddfa’r Tywydd yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, mae’n ymgymryd â chytundeb 3 blynedd ar brosiect wedi’i ariannu gan Leverhulme yn ymchwilio i sefydlogrwydd hir dymor llen ia Gwlad yr Iâ. Mae wedi buddsoddi yng Nghydweithfa Egni.