Cartref

Mae pawb ar eu hennill – yr amgylchedd, y gymuned, a chi!

Paul Thorburn ar y cae, ar gymryd cic dros Gymru.
Paul Thorburn (tîm rygbi Cymru)
"Harneisiais i bŵer y gwynt i helpu rhai o'n ceision ar y cae, ac i weld y buddion nawr yn dychwelyd at y gymuned leol o'r adnodd hwn, yn anghredadwy.”
Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke
Gillian Clarke (Bardd Cenedlaethol Cymru)
“Dyma'r ffordd dylai cynhyrchiad ynni i fod – pentref wrth bentref, cymuned wrth gymuned, gyda'r elw i gyd yn mynd yn ôl i'r bobol. Mae'r cynllun hwn, seiliedig ar egwyddorion cynaliadwy, yn werth cefnogi.”
Paul Allen o CDA yn egluro sut mae ynni gwynt cymunedol yn syniad gwych.
Paul Allen (CDA)
“Nid yn unig fydd y prosiect yma yn helpu i greu Cymru rhag carbon, ond mae'n ffordd ffantastig i elwa incwm amdanoch chi'ch hunan ac i gefnogi cymunedau sy'n angen adfywiad."
Jan a Rhys yn codi llwncdestun i’w buddsoddiad i ynni adnewyddadwy cymunedol
Jan a Rhys
"Drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy cymunedol, rydym yn paratoi llwybr gwyrdd newdd at ddatblygiad cymunedol."
Gweithdy DOVE yn codi llwncdestun i’w buddsoddiad i ynni adnewyddadwy cymunedol
Gweithdy DOVE
"Mae cynhyrchu pwer gwynt sy’n eiddo lleol yn dod ag incwm i’r gymuned."
Daniel o Lanaman ar y rheswm pam mae’n buddsoddi i dyrbin gwynt cymunedol
Daniel
"Dwi'n hapus mewn gwybod fod fy arian yn gweithio i wellhau'r byd."
Emily Hinshelwood yn cefnogi Awel sy'n rhoi ynni mewn dwylo pobol gyffredin
Emily Hinshelwood
"Dw i eisiau gweld modd cynhyrchiad ynni mewn dwylo pobol gyffredin – fel fi."

Cymdeithas Budd Cymunedol yw Awel, ac mi fydd ei phrosiect yn meddu ar ac yn rheoli dau dyrbin gwynt Enercon 2.35MW ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Bydd y tyrbinau yn cynhyrchu ynni glân, carbon isel a rhagwelir y byddant yn cynhyrchu 12,558 MWh amcangyfrifedig o ynni glân bob blwyddyn — digon i gyflenwi dros 2,500 o gartrefi.

Mi fydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi elusen leol Awel Aman Tawe yn eu hymgyrch i daclo tlodi tanwydd a datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy eraill.

Mae’r tîm tu ôl i’r Cynnig Cyfranddaliadau wedi cyflenwi Cydweithfa Solar Egni‘n llwyddiannus yn barod, sydd wedi gosod 179kW o baneli solar ar saith adeilad cymunedol lleol.