Rydym ni’n recriwtio Swyddog Datblygu!

Rydym yn chwilio am berson neu ymgeisydd rhannu swydd brwdfrydig, galluog i ymuno â’n tîm bychan a helpu i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle blaenllaw ar gyfer ynni cymunedol.

Mae Awel Aman Tawe yn elusen gofrestredig sy’n datblygu rhaglen o waith i gefnogi adfywio carbon isel. Ariennir y swydd hon trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gellir gweld y disgrifiad swydd llawn yma SwyddogDatblyguAAT

Mae AAT yn gweithio ar nifer o brosiectau yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, adfywio, trafnidiaeth gynaliadwy, celfyddydau cymunedol a rhaglenni addysgol. Mae wedi datblygu dau gwmni cydweithredol ac mae’n darparu rheolaeth/cymorth gweinyddol i’r ddau:

  • awel.coop sy’n berchen ar gynllun gwynt dau dyrbin 4.7MW ar y Gwrhyd uwchben Pontardawe
  • egni.coop sy’n berchen ar 179kw o ffotofoltäig solar ar 7 adeilad cymunedol yn Ne Cymru

Pwrpas y Swydd

  • gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau a grwpiau cymunedol i glustnodi, datblygu a gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy neu effeithlonrwydd ynni, yn cynnwys cydgysylltu, rheoli prosiectau, a chyflwyno adroddiadau. Bydd hyn yn cynnwys datblygu Cwmnïau Cydweithredol Awel ac Egni ymhellach.
  • Bydd y rôl yn cynnwys datblygu a chyflenwi prosiectau adnewyddion o’r pwynt clustnodi, trwy lofnodi gan y tirfeddiannwr a’r broses gynllunio, hyd at y nod terfynol o gyflenwi prosiectau â chaniatâd, sy’n economaidd ymarferol ac yn adeiladwy, a chyrraedd y pwynt ble byddant yn barod i’w hadeiladu.
  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb cychwynnol a darparu cyngor ar gynigion ynni cynaliadwy, gan roi ystyriaeth i faterion technegol, rheoliadol, ariannol, datblygu grŵp ac ymgysylltu â’r gymuned.
  • Ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiectau ynni a rheoli ymgynghorwyr arbenigol a fyddai’n helpu i symud y prosiect at y camau cynllunio a gweithredu.

Gallai cefndir perthnasol gynnwys ymgynghoriaeth ynni, peirianneg, effeithlonrwydd ynni, y diwydiant ynni adnewyddadwy neu gyflenwi ynni, rheoli prosiectau – yn enwedig yn y sector gymunedol, cynllunio, rheoli ynni.

Oriau gweithio:       37.5 awr yr wythnos, oriau swyddfa safonol yn bennaf.  Bydd yn ofynnol gweithio gyda’r nos neu ar y penwythnos o bryd i’w gilydd.

Contract:                Bydd y person(au) yn cael eu cyflogi ar gontract 2 flynedd gan Awel Aman Tawe, gyda’r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid. Croesewir ymgeiswyr a fyddai’n ystyried gweithio’n rhan amser, a byddem yn barod i greu cyfleoedd rhannu swydd gydag ymgeiswyr eraill ble bo’n briodol.

Gweithle:                Lleoliad y swydd hon fydd Swyddfa AAT yng Nghwmllynfell. Mae gan AAT bolisi gweithio gartref sy’n caniatáu gweithio o gartref fel y bo’n briodol.

Cyflog:                    £27,000 – £34,000 (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)

Dyddiad Cau:  27 Gorffennaf 2018       Cyfweliadau: Dydd Gwener 10 August 2018

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .