Wythnos Tri: Adeiladu’r Trac
Adeiladu’r Trac
Gwnaeth y tîm dechrau ar y trac yn mynd i fyny trwy’r caeau. Dyma’r map yn dangos y pellter y maent wedi cyrraedd.
Canol wythnos, es i fyny Mynydd Baran – gyferbyn y Gwrhyd – a chymerais lun i ddangos y llwybr y bydd y tyrbinau yn cymryd. Os edrychwch yn ofalus gallwch weld Jac Codi Baw Richard.
Dyma ychydig o luniau o’r trac cynnar yn yr wythnos. Roedd yn wlyb ac yn gleiog iawn – taro’n nhw ffynnon ac roedd rhaid iddynt rhoi cwlfer mewn.
Pan oedd hynny wedi ei gwblhau, dechreuon nhw balu ymaith y pridd, osoda’r geotecstil, lledaenu’r cerrig, ac yn gwastatau’r trac gyda’r rholer. Efallai y bydd pobl sy’n byw yn yr ardal wedi gweld llawer o lorïau yn dod â cerrig i’r safle o tywodfaen o chwarel leol.
Ar y Bellmouth:
Bydd y swyddfa ar y safle yn symud ymhellach i fyny’r llwybr yn fuan. Ar ôl hynny, bydd y Bellmouth yn cael ei lefelu a thirlunio.
Ymwelodd rhai aelodau Awel Coop y safle yn ystod yr wythnos: